NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o reoliadau er mwyn llacio nifer o ofynion ar ysgolion o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.

Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol”) yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid i gorff llywodraethu ysgol ei chyhoeddi mewn adroddiad blynyddol. Felly, mae rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd yn y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol ac effaith hynny yw nad yw’n ofynnol cyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn ar gyfer y flwyddyn ysgol 2020-2021 mewn unrhyw adroddiad blynyddol llywodraethwyr—

(a)

paragraff 6 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (y crynodeb o berfformiad yr ysgol uwchradd),

(b)

paragraff 7 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (nifer absenoldebau awdurdodedig disgyblion a nifer absenoldebau anawdurdodedig disgyblion), ac

(c)

paragraff 8(b) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (gwybodaeth bellach sy’n ymwneud ag absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig disgyblion).

Mae diwygiad canlyniadol wedi ei wneud hefyd i reoliad 5(2)(a) o’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol mewn perthynas â gofynion ffurf fer yr adroddiad blynyddol.

Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Adrodd”) yn gwneud darpariaeth o ran yr adroddiad y mae’n ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir ei anfon at rieni a disgyblion sy’n oedolion bob blwyddyn ysgol a’r wybodaeth ychwanegol y caiff rhiant ofyn i’r pennaeth amdani. Nid yw pob plentyn wedi mynychu’r ysgol drwy gydol y flwyddyn ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon wedi gweithio ac wedi astudio o bell am gyfnodau estynedig. Mae hyn yn peri heriau i athrawon mewn cysylltiad â’r cynnwys llawn a fyddai fel arfer yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad i rieni a disgyblion sy’n oedolion. Felly, mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth newydd yn y Rheoliadau Adrodd ac effaith hynny yw diwygio’r rhwymedigaethau ar y penaethiaid, mewn cysylltiad â chynnwys penodedig adroddiadau, fel eu bod yn rhwymedig i wneud ymdrechion rhesymol i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.

Mae Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion”) yn rhagnodi’r wybodaeth ysgol y mae rhaid i awdurdodau lleol ac ysgolion ei chyhoeddi mewn prosbectws ysgol. Nid yw pob plentyn wedi mynychu’r ysgol drwy gydol y flwyddyn ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon wedi gweithio ac wedi astudio o bell am gyfnodau estynedig. Mae’n debygol y bydd hynny yn cael effaith negyddol ar ansawdd rhywfaint o’r data a reoleiddir gan y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion. Ystyrir yr effeithir yn benodol ar y data ynghylch absenoldebau disgyblion ac felly ni ddylid eu cyhoeddi mewn prosbectws ysgol. Felly, mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth yn y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion ac effaith hynny yw datgymhwyso’r rhwymedigaeth ar gorff llywodraethu ysgol i gynnwys mewn unrhyw brosbectws ysgol y data a nodir ym mharagraff 30 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny (data sy’n ymwneud ag absenoldebau disgyblion) mewn cysylltiad â’r flwyddyn ysgol 2020-2021.

Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion”) yn rheoleiddio trosglwyddo gwybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad addysgol disgyblion o benaethiaid i gyrff llywodraethu ysgolion, awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru. Fel y’i nodir uchod, nid yw pob plentyn wedi mynychu’r ysgol drwy gydol y flwyddyn ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon wedi gweithio ac wedi astudio o bell am gyfnodau estynedig. Mae’n debygol y bydd hynny yn cael effaith negyddol ar ansawdd rhywfaint o’r data a reoleiddir gan y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion. Ni fydd llawer o ysgolion wedi cwblhau asesiadau’r cyfnod sylfaen a’r cyfnodau allweddol ac ni fydd Gweinidogion Cymru, drwy awdurdodau lleol, yn casglu’r data hyn am y flwyddyn ysgol 2020-2021. Felly, mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth yn y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion ac effaith hynny yw datgymhwyso’r rhwymedigaethau ar ysgol i gyflenwi’r wybodaeth ragnodedig sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2020-2021 i awdurdodau lleol, ac ar awdurdodau lleol i gyflenwi’r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.