Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/40 (Cy. 11)) (“y Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132) (y “Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru o wledydd neu diriogaethau nad ydynt yn esempt ynysu am gyfnod sydd i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliadau 3 i 8 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag archebu a chymryd profion ar gyfer personau sy’n cyrraedd Cymru ar ôl teithio y tu allan i’r ardal deithio gyffredin o fewn y 10 niwrnod blaenorol. Mae’n ofynnol i bersonau sy’n teithio i Gymru ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth esempt a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol archebu a chymryd prawf diwrnod 2, tra bo rhaid i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt archebu a chymryd prawf diwrnod 2 a diwrnod 8. Gwneir darpariaeth hefyd yn ymwneud â methu â chymryd profion a goblygiadau canlyniadau profion. Mae rheoliadau 9 i 14 yn gwneud diwygiadau canlyniadol yng ngoleuni’r darpariaethau yn rheoliadau 3 i 8.
Mae rheoliad 15 yn ychwanegu gwledydd a thiriogaethau at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr yn gosod gofyniad ar bersonau sy’n gweithredu gwasanaethau teithwyr rhyngwladol (“gweithredwyr”) sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin. Yn unol â’r gofynion hynny rhaid i weithredwyr, er enghraifft, sicrhau bod teithwyr sy’n teithio ar y gwasanaethau hynny yn meddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol a’u bod wedi gwneud trefniadau i gymryd profion pellach ar ôl iddynt gyrraedd.
O ganlyniad i’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol gan y Rheoliadau hyn, mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr er mwyn adlewyrchu’r llacio ar y cyfyngiadau ar deithio rhyngwladol.
Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig i deithwyr.
O ganlyniad i’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol gan y Rheoliadau hyn, mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r wybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig y mae rhaid i weithredwyr ei darparu i deithwyr cyn iddynt deithio i Gymru ac wrth iddynt deithio iddi.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.