Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1Cyffredinol
Enwi, dehongli a dod i rym1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 6.00 a.m. ar 17 Mai 2021.
(3)
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr” (“the Operator Liability Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 20212;
ystyr “y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd” (“the Public Health Information Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 20203;
ystyr “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” (“the International Travel Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20204.
RHAN 2Diwygiadau i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Diwygiadau i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol2.
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 15.
Rheoliad newydd 6AB (gofyniad i archebu a chymryd profion)3.
Yn lle rheoliadau 6B a 6C rhodder—
“Gofyniad i archebu a chymryd profion6AB.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”) sy’n 5 oed neu drosodd—
(a)
sy’n cyrraedd Cymru,
(b)
sydd wedi bod y tu allan i’r ardal deithio gyffredin o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, ac
(c)
nad yw’n berson a ddisgrifir yn—
(i)
paragraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno;
(ii)
paragraffau 2 i 16, ac 36 o Atodlen 2;
(iii)
paragraff 14 o Atodlen 5.
(2)
Yn y Rhan hon—
(a)
“prawf diwrnod 2” yw prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A o’r Atodlen honno;
(b)
“prawf diwrnod 8” yw prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 2 o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 2A o’r Atodlen honno;
(c)
“darparwr prawf cyhoeddus” yw person sy’n darparu neu’n gweinyddu prawf gan arfer pwerau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978, neu Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972;
(d)
ystyr “pecyn profi” yw—
(i)
mewn cysylltiad â pherson y mae rheoliad 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo, archeb ar gyfer prawf diwrnod 2 a phrawf diwrnod 8;
(ii)
mewn cysylltiad â pherson (“P”) sy’n cyrraedd Cymru ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth esempt a restrir yn Atodlen 3 o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, archeb ar gyfer prawf diwrnod 2.
(3)
Pan fo P yn oedolyn, rhaid i P, wrth iddo gyrraedd Cymru, feddu ar becyn profi a drefnir gyda darparwr prawf cyhoeddus—
(a)
ar gyfer P, a
(b)
ar gyfer plentyn sy’n 5 oed neu drosodd y mae gan P gyfrifoldeb drosto ac y mae P yn teithio gydag ef.
(4)
Pan fo P yn oedolyn sy’n cyrraedd Cymru heb feddu ar becyn profi sy’n ofynnol o dan baragraff (3), rhaid i P gael pecyn profi cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(5)
Nid yw prawf i’w drin fel pe bai wedi ei drefnu yn unol â’r rheoliad hwn oni bai—
(a)
bod y person sy’n trefnu’r profion wedi hysbysu’r darparwr prawf cyhoeddus fod y profion yn cael eu trefnu at ddibenion y rheoliad hwn, a
(b)
bod yr wybodaeth yn Atodlen 1B wedi ei darparu i’r darparwr prawf cyhoeddus mewn perthynas â P.
(6)
Pan drefnir y profion, rhaid i’r darparwr prawf cyhoeddus ddarparu cyfeirnod prawf—
(a)
i P, a
(b)
i unrhyw berson sy’n trefnu profion ar ran P.
(7)
Yn ddarostyngedig i baragraff (8), pan fo P—
(a)
yn oedolyn, rhaid iddo gymryd y profion yn unol â’i becyn profi;
(b)
yn blentyn sy’n 5 oed neu drosodd, rhaid i oedolyn sydd â chyfrifoldeb dros P sicrhau, cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol, fod P yn cymryd y profion yn unol â’r pecyn profi.
(8)
Pan fo prawf diwrnod 2 P yn cynhyrchu canlyniad positif, nid yw’n ofynnol i P gymryd prawf diwrnod 8.
(9)
Pan na fo P yn cymryd prawf fel sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn am fod ganddo esgus rhesymol, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf (“prawf arall”) sy’n cydymffurfio â’r gofynion sy’n gymwys i’r prawf nas cynhaliwyd.
(10)
Pan gymerir prawf arall yn lle—
(a)
prawf diwrnod 2, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf diwrnod 2 yn unol â’r rheoliad hwn;
(b)
prawf diwrnod 8, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf diwrnod 8 yn unol â’r rheoliad hwn.
(11)
Rhaid i berson sy’n meddu ar becyn profi ddarparu tystiolaeth ohono os yw swyddog mewnfudo neu gwnstabl yn gofyn amdani.”
Rheoliadau newydd 6DA a 6DB (gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion)4.
Yn lle rheoliad 6D rhodder—
“Gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion: teithwyr o wledydd a thiriogaethau nad ydynt yn esempt6DA.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â pherson (“P”) y mae rheoliadau 6AB(1) a naill ai 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo.
(2)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
(a)
P yn methu â chymryd prawf diwrnod 8, a
(b)
naill ai—
(i)
P yn methu â chymryd prawf diwrnod 2, neu
(ii)
prawf diwrnod 2 P yn cynhyrchu canlyniad negyddol neu amhendant.
(3)
Pan fo paragraff (2) yn gymwys, diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).
(4)
Pan fo paragraff (2) yn gymwys ond bod P yn cymryd prawf y mae paragraff (5) yn gymwys iddo wedi hynny a—
(a)
bod y canlyniad yn bositif, mae rheoliad 6E yn gymwys fel pe bai’r prawf wedi ei gymryd yn unol â rheoliad 6AB;
(b)
bod y canlyniad yn negyddol, mae rheoliad 6G yn gymwys fel pe bai—
(i)
P wedi cymryd prawf diwrnod 2 a phrawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6AB, a
(ii)
y ddau brawf yn negyddol.
(5)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i brawf diwrnod 8 a gymerir—
(a)
cyn diwedd cyfnod ynysu P fel y byddai wedi ei bennu o dan reoliad 12 pe na bai paragraff (2) yn gymwys, ond
(b)
yn ddim cynharach na diwedd y seithfed diwrnod ar ôl y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
Gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt6DB.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â pherson (“P”) y mae rheoliad 6AB(1) yn gymwys iddo ond nad yw rheoliad 7(1) na 8(1) yn gymwys iddo.
(2)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo P yn methu â chymryd prawf diwrnod 2.
(3)
Pan fo paragraff (2) yn gymwys, mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3 ddiwethaf.
(4)
Pan fo paragraff (2) yn gymwys ond bod P yn cymryd prawf y mae paragraff (5) yn gymwys iddo wedi hynny a—
(a)
bod y canlyniad yn bositif, mae rheoliad 6E yn gymwys fel pe bai’r prawf wedi ei gymryd yn unol â rheoliad 6AB;
(b)
bod y canlyniad yn negyddol, nid yw’n ofynnol i P ynysu yn unol â rheoliad 7 mwyach.
(5)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i brawf—
(a)
sy’n cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer prawf diwrnod 2 ym mharagraff 1 o Atodlen 1C,
(b)
a drefnir yn unol â rheoliad 6AB(5), ac
(c)
sy’n cael ei gymryd o fewn 10 niwrnod i’r diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.”
Amnewid rheoliad 6E (goblygiadau canlyniad prawf positif)5.
Yn lle rheoliad 6E (goblygiadau canlyniad prawf positif) rhodder—
“6E.
Pan fo prawf a gymerir gan berson (“P”) yn unol â rheoliad 6AB yn bositif—
(a)
pan fo P yn berson—
(i)
y mae rheoliad 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo, diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P), neu
(ii)
nad yw rheoliad 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo, mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf, a
(b)
nid yw rheoliad 10(3) (gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P pan fydd P yn gadael Cymru) o’r Rheoliadau hyn ac, yn ddarostyngedig i reoliad 6I, rheoliad 6 neu 7, fel y bo’n briodol, o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru)5 2020 yn gymwys mewn perthynas â P.”
Diwygiadau i reoliad 6F6.
Yn rheoliad 6F (goblygiadau canlyniad positif i berson sy’n preswylio yn yr un fangre)—
(a)
ym mharagraff (1), yn lle “rheoliad 6C” rhodder “rheoliad 6AB”;
(b)
ym mharagraff (3)(a), yn lle “rheoliad 6C(1)(b)” rhodder “rheoliad 6AB”;
(c)
ym mharagraff (3)(b), yn lle “rheoliad 6C(1)(a)” rhodder “rheoliad 6AB”.
Diwygiad i reoliad 6G7.
Yn rheoliad 6G(1)(a) (goblygiadau peidio â chael canlyniad prawf diwrnod 8 cyn diwedd y cyfnod ynysu), yn lle “rheoliad 6C(1)” rhodder “rheoliad 6AB”.
Rheoliadau newydd 6HA a 6HB (goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant)8.
Yn lle rheoliad 6H (goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant) rhodder—
“Goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr o wledydd a thiriogaethau nad ydynt yn esempt6HA.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â pherson (“P”) y mae rheoliadau 6AB(1) a naill ai 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo.
(2)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo canlyniad prawf a gymerir gan P yn unol â rheoliad 6AB yn amhendant.
(3)
Pan fo paragraff (2) yn gymwys, diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw—
(a)
diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf, neu
(b)
pan fo P yn cymryd prawf y mae paragraff (5) yn gymwys iddo a bod canlyniad y prawf yn negyddol, y diweddaraf o’r canlynol—
(i)
diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf, neu
(ii)
y diwrnod y mae P yn cael y canlyniad negyddol, neu
(c)
pan fo P yn cymryd prawf y mae paragraff (5) yn gymwys iddo a bod canlyniad y prawf yn bositif, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf.
(4)
Pan fo paragraff (3)(c) yn gymwys, nid yw’n ofynnol i P gymryd y prawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6AB.
(5)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—
(a)
prawf diwrnod 8 a gymerir yn unol â rheoliad 6AB;
(b)
prawf—
(i)
sy’n cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer prawf diwrnod 8 ym mharagraff 2 o Atodlen 1C,
(ii)
a drefnir yn unol â rheoliad 6AB(5), a
(iii)
sy’n cael ei gymryd—
(aa)
cyn diwedd cyfnod ynysu P fel y byddai wedi ei bennu o dan reoliad 12 pe na bai paragraff (1) yn gymwys, ond
(bb)
cyn diwedd y seithfed diwrnod ar ôl y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
Goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt6HB.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â pherson (“P”) y mae rheoliad 6AB(1) yn gymwys iddo ond nad yw rheoliad 7(1) na 8(1) yn gymwys iddo.
(2)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo canlyniad prawf a gymerir gan P yn unol â rheoliad 6AB yn amhendant.
(3)
Pan fo paragraff (2) yn gymwys, mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3 ddiwethaf.
(4)
Pan fo paragraff (2) yn gymwys ond bod P yn cymryd prawf y mae paragraff (5) yn gymwys iddo wedi hynny a—
(a)
bod y canlyniad yn bositif, mae rheoliad 6E yn gymwys fel pe bai’r prawf wedi ei gymryd yn unol â rheoliad 6AB;
(b)
bod y canlyniad yn negyddol, nid yw’n ofynnol i P ynysu yn unol â rheoliad 7 mwyach.
(5)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i brawf—
(a)
sy’n cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer prawf diwrnod 2 ym mharagraff 1 o Atodlen 1C,
(b)
a drefnir yn unol â rheoliad 6AB(5), ac
(c)
sy’n cael ei gymryd o fewn 10 niwrnod i’r diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.”
Diwygiadau i reoliad 149.
Yn rheoliad 14 (troseddau)—
(a)
ym mharagraff (1)(h), yn lle “6B a 6C” rhodder “6AB”;
(b)
ym mharagraff (1)(i), yn lle “6D” rhodder “6DA a 6DB”;
(c)
ym mharagraff (1B), yn lle “6B, 6C” rhodder “6AB”;
(d)
ym mharagraff (1C), yn lle “rheoliad 6B” rhodder “rheoliad 6AB”;
(e)
ym mharagraff (1D), yn lle “rheoliad 6C” rhodder “rheoliad 6AB”.
Diwygiadau i reoliad 1610.
Yn rheoliad 16 (hysbysiadau cosb benodedig)—
(a)
ym mharagraff (6)(ab), yn lle “reoliad 6D” rhodder “reoliad 6DA neu 6DB”;
(b)
ym mharagraff (6AB)—
(i)
yn lle “rheoliad 6B(3) neu (5)” rhodder “rheoliad 6AB(3)”;
(ii)
yn lle “rheoliad 6C(1) neu (3)”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “rheoliad 6AB(7)”.
Diwygiadau i reoliad 1711.
Yn rheoliad 17(2)(a) (defnyddio a datgelu gwybodaeth)—
(a)
ym mharagraff (iii)—
(i)
yn y geiriau cyn is-baragraff (aa), yn lle’r geiriau o “trefnu” hyd at y diwedd rhodder “trefnu neu’n cymryd prawf o dan reoliad 6AB”;
(ii)
yn is-baragraff (bb)—
(aa)
yn lle “reoliad 6B(2)(c)” rhodder “reoliad 6AB(2)(c)”;
(bb)
yn lle “reoliad 6B(6)” rhodder “reoliad 6AB(6)”;
(iii)
yn is-baragraff (dd), yn lle “rheoliad 6C” rhodder “rheoliad 6AB”;
(b)
ym mharagraff (iv), yn lle “rheoliad 6B(8)” rhodder “rheoliad 6AB(11)”;
(c)
ym mharagraff (v), yn lle “reoliad 6C” rhodder “reoliad 6AB”.
Diwygiadau i Atodlen 112.
Yn Atodlen 1 (gwybodaeth am deithiwr), ym mharagraff 3—
(a)
yn lle “rheoliad 6B” rhodder “rheoliad 6AB”;
(b)
yn lle “rheoliad 6B(7)” rhodder “rheoliad 6AB(6)”.
Diwygiadau i Atodlen 1B13.
Yn Atodlen 1B (gwybodaeth archebu)—
(a)
yn y nodyn cwr tudalen, yn lle “Rheoliad 6B” rhodder “Rheoliad 6AB”;
(b)
yn lle paragraff 2(a) rhodder—
“(aa)
cyfeiriad cartref P;
(ab)
pan fo P yn berson y mae rheoliad 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo, y cyfeiriad y mae’n bwriadu ynysu ynddo (os yw’n wahanol i’w gyfeiriad cartref);
(ac)
pan fo P yn berson nad yw rheoliad 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo, y cyfeiriad neu’r cyfeiriadau y mae’n bwriadu aros ynddo neu ynddynt yn ystod y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd y Deyrnas Unedig;”.
Diwygiadau i Atodlen 1C14.
Yn Atodlen 1C (profion mandadol ar ôl cyrraedd Cymru)—
(a)
yn y nodyn cwr tudalen, yn lle “Rheoliad 6B” rhodder “Rheoliad 6AB”;
(b)
ar ôl paragraff 1 mewnosoder—
“1A.
Yr amgylchiadau a grybwyllir yn rheoliad 6AB(2)(a) yw bod P yn cymryd y prawf diwrnod 2 heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.”;
(c)
ar ôl paragraff 2 mewnosoder—
“2A.
Yr amgylchiadau a grybwyllir yn rheoliad 6AB(2)(b) yw bod P yn cymryd y prawf diwrnod 8 heb fod yn hwyrach na diwedd y seithfed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.”
Diwygiadau i Atodlen 315.
Yn Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin)—
(a)
yn Rhan 1, yn lle “Nid yw unrhyw wledydd, unrhyw diriogaethau nac unrhyw rannau o wledydd neu diriogaethau wedi eu pennu yn y Rhan hon” rhodder y cofnodion a ganlyn—
“Awstralia
Brunei Darussalam
Gibraltar
Gwlad yr Iâ
Israel
Portiwgal
Seland Newydd
Singapore
Ynysoedd Ffaröe”;
(b)
yn Rhan 2, yn lle “Nid yw unrhyw diriogaethau wedi eu pennu yn y Rhan hon” rhodder y cofnodion a ganlyn—
“Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha
Ynysoedd Falkland, De Georgia ac Ynysoedd De Sandwich”.
RHAN 3Diwygiadau i’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr
Yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), 3(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c) yw—
Rhan 2
Y datganiad sydd i’w ddarparu at ddibenion rheoliad 4 yw—
(a)
y fersiwn Gymraeg—
(b)
y fersiwn Saesneg—
(c)
y datganiad sydd ym mharagraff (a) neu (b) wedi ei gyfieithu i iaith a gydnabyddir yn swyddogol yn y wlad yr ymadawyd â hi.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/40 (Cy. 11)) (“y Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132) (y “Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru o wledydd neu diriogaethau nad ydynt yn esempt ynysu am gyfnod sydd i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliadau 3 i 8 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag archebu a chymryd profion ar gyfer personau sy’n cyrraedd Cymru ar ôl teithio y tu allan i’r ardal deithio gyffredin o fewn y 10 niwrnod blaenorol. Mae’n ofynnol i bersonau sy’n teithio i Gymru ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth esempt a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol archebu a chymryd prawf diwrnod 2, tra bo rhaid i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt archebu a chymryd prawf diwrnod 2 a diwrnod 8. Gwneir darpariaeth hefyd yn ymwneud â methu â chymryd profion a goblygiadau canlyniadau profion. Mae rheoliadau 9 i 14 yn gwneud diwygiadau canlyniadol yng ngoleuni’r darpariaethau yn rheoliadau 3 i 8.
Mae rheoliad 15 yn ychwanegu gwledydd a thiriogaethau at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr yn gosod gofyniad ar bersonau sy’n gweithredu gwasanaethau teithwyr rhyngwladol (“gweithredwyr”) sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin. Yn unol â’r gofynion hynny rhaid i weithredwyr, er enghraifft, sicrhau bod teithwyr sy’n teithio ar y gwasanaethau hynny yn meddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol a’u bod wedi gwneud trefniadau i gymryd profion pellach ar ôl iddynt gyrraedd.
O ganlyniad i’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol gan y Rheoliadau hyn, mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr er mwyn adlewyrchu’r llacio ar y cyfyngiadau ar deithio rhyngwladol.
Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig i deithwyr.
O ganlyniad i’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol gan y Rheoliadau hyn, mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r wybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig y mae rhaid i weithredwyr ei darparu i deithwyr cyn iddynt deithio i Gymru ac wrth iddynt deithio iddi.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.