Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 568 (Cy. 156)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021

Gwnaed

am 2.26 p.m. ar 11 Mai 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 5.45 p.m. ar 11 Mai 2021

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 12 Mai 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 12 Mai 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

2.  Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2), yn y lle priodol mewnosoder—

Maldives

Nepal

Twrci.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 2.26 p.m. ar 11 Mai 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod sydd i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n cynnwys y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol. Mae personau nad ydynt yn esempt wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A o fewn 10 niwrnod i gyrraedd, yn unol â rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 2 yn ychwanegu Maldives, Nepal a Thwrci at y rhestr yn Atodlen 3A.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.