2. Ar ôl erthygl 16 o Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021(1) mewnosoder—
“16A.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—
(a)sy’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol gyntaf,
(b)nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, ac
(c)y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2) Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol gyntaf—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
(3) Yn yr erthygl hon—
(a)ystyr “peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig” yw bod enw’r disgybl wedi ei ddileu o gofrestr dderbyn yr ysgol yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010(2);
(b)ystyr “ysgol gyntaf” yw’r ysgol a gynhelir yr oedd y plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi ar 1 Medi 2021.
16B.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—
(a)sy’n dod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),
(b)y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol amdano,
(c)nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, a
(d)y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2) Ar y dyddiad y daw’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
16C.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—
(a)sy’n dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 15 o’r Ddeddf,
(b)nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, ac
(c)y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2) Ar y dyddiad y daw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 15 o’r Ddeddf—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.”.
O.S. 2021/381 (Cy. 120) (C. 13).
O.S. 2010/1954 (Cy. 187).