Diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 20212.
“16A.
(1)
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—
(a)
sy’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol gyntaf,
(b)
nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, ac
(c)
y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2)
Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol gyntaf—
(a)
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
(3)
Yn yr erthygl hon—
(a)
ystyr “peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig” yw bod enw’r disgybl wedi ei ddileu o gofrestr dderbyn yr ysgol yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 20103;(b)
ystyr “ysgol gyntaf” yw’r ysgol a gynhelir yr oedd y plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi ar 1 Medi 2021.
16B.
(1)
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—
(a)
sy’n dod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),
(b)
y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol amdano,
(c)
nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, a
(d)
y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2)
Ar y dyddiad y daw’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall—
(a)
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
16C.
(1)
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—
(a)
sy’n dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 15 o’r Ddeddf,
(b)
nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, ac
(c)
y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2)
Ar y dyddiad y daw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 15 o’r Ddeddf—
(a)
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.”.