NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) fel a ganlyn.

  • Mae’r cyfnod y mae’r darpariaethau dros dro yn Atodlen 3A yn gymwys ynddo (wrth bontio o Lefel Rhybudd 4 i Lefel Rhybudd 3) wedi ei estyn i ddiwedd y diwrnod ar 2 Mai 2021.

  • Mae’r cyfyngiad ar bobl rhag ymgynnull pan gynhelir gwaith yng nghartrefi pobl, er enghraifft gan grefftwyr, wedi ei wneud yn glir drwy ddarparu y caniateir hyn ar Lefelau Rhybudd 1, 2 a 3 (ac yn y cyfnod trosiannol sy’n gymwys ar hyn o bryd) heb fod angen iddo fod yn “rhesymol angenrheidiol” a heb fod angen “nad oes dewis arall sy’n rhesymol”.

  • Mae’r cyfyngiadau cyffredinol ar ymgynnull ag eraill yn yr awyr agored wedi eu llacio drwy ddileu’r gofyniad mai dim ond o ddwy aelwyd wahanol y caiff y rheini sy’n ymgynnull ddod. Mae hyn yn golygu y caiff unrhyw 6 pherson ymgynnull yn yr awyr agored bellach, heb gynnwys plant o dan 11 oed (ar yr amod nad ydynt yn dod o fwy na 6 aelwyd) neu ofalwyr. Mae’r newid hwn yn cymryd effaith ar 24 Ebrill 2021 a bydd hefyd yn gymwys ar Lefel Rhybudd 3.

  • Yn ogystal, caiff pobl ymgynnull yn yr awyr agored at ddibenion cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd wedi eu trefnu’n ffurfiol sy’n cynnwys hyd at 30 o bobl (mae hyn yn golygu bod person dynodedig yn gyfrifol am y gweithgaredd, bod pob mesur rhesymol yn cael ei gymryd i leihau lledaeniad y coronafeirws wrth ymgymryd â’r gweithgaredd ac nad yw alcohol yn cael ei yfed). Mae’r newid hwn yn cael effaith o 26 Ebrill 2021.

  • Gall gweithgareddau sydd wedi eu trefnu’n ffurfiol gynnwys protestio a phicedu, a all ddigwydd heb gyfyngu ar nifer y bobl sy’n bresennol ar bob Lefel Rhybudd ac eithrio Lefel Rhybudd 4.

  • Mae darpariaeth benodol wedi ei gwneud i ganiatáu cynulliadau yn yr awyr agored, o hyd at 30 o bobl, i ddathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020. Ac, yn yr un modd, caniateir cynulliadau yn yr awyr agored o hyd at 30 o bobl i ddathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020. Mae’r newid hwn yn cael effaith o 26 Ebrill 2021.

  • Caniateir i fusnesau penodol ailagor eu mangreoedd ar gyfer gweithgareddau yn yr awyr agored. Mae hyn yn cynnwys busnesau bwyd a diod, atyniadau i ymwelwyr a phyllau nofio. Mae’r newid hwn yn cael effaith o ddechrau’r diwrnod ar 26 Ebrill 2021, ac eithrio ar gyfer busnesau bwyd a diod a gaiff agor o 6 a.m. ymlaen y diwrnod hwnnw.

  • Caniateir trefnu digwyddiadau “peilot” â chaniatâd Gweinidogion Cymru. Mae hyn hefyd i fod yn gymwys ar Lefel Rhybudd 3 (ac roedd eisoes wedi ei ganiatáu ar Lefelau Rhybudd 2 a 1).

  • Mae diwygiadau wedi eu gwneud hefyd i Atodlenni 1, 2 a 3 (yr Atodlenni sy’n gymwys ar Lefelau Rhybudd 1, 2 a 3). Mae’r rhain wedi eu gwneud i adlewyrchu cynnwys Cynllun Rheoli’r Coronafeirws a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021 a mân newidiadau eraill sydd wedi eu gwneud i’r cyfyngiadau yn ystod y cyfnod o bontio o Lefel Rhybudd 4 i Lefel Rhybudd 3 y bwriedir iddynt barhau i gael effaith ar y Lefelau Rhybudd eraill. O ganlyniad i hyn a’r diwygiadau eraill y cyfeirir atynt uchod, mae Atodlen 3 wedi ei hatgynhyrchu’n llawn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.