NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod sydd i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 6B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn esemptio person sy’n cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol, sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddiben cludo deunyddiau penodol i’w defnyddio i ddarparu gwasanaeth iechyd gan ddarparwr gwasanaethau iechyd, rhag y gofyniad i drefnu profion cyn iddo gyrraedd.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 6K o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn cymhwyso’r gofynion ar brofi’r gweithlu i weithwyr iechyd neu weithwyr gofal penodol sy’n cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol er mwyn ymgymryd â chyflogaeth.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn caniatáu i’r ddau gategori hynny o berson gael mynediad i Gymru.

Mae rheoliad 6 yn diwygio Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n cynnwys y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol yng Nghymru. Mae rheoliad 6 yn ychwanegu India at y rhestr.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.