2021 Rhif 500 (Cy. 149)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a dod i rym1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 23 Ebrill 2021.

RHAN 2Diwygiadau

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202.

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygiad i reoliad 6B3.

Yn rheoliad 6B(1A) (gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru), o flaen “yn gymwys”, yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “neu reoliad 12E(2)(f)”.

Diwygiad i reoliad 6K4.

Yn rheoliad 6K(1) (profi’r gweithlu), ar ôl “Atodlen 2” mewnosoder “neu reoliad 12E(2)(g)”.

Diwygiadau i reoliad 12E5.

(1)

Mae rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Ar ôl paragraff (2)(e) mewnosoder—

“(f)

yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 14 o Atodlen 5;

(g)

yn berson—

(i)

y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith fel gweithiwr iechyd proffesiynol neu weithiwr gofal proffesiynol yn y Deyrnas Unedig,

(ii)

sy’n gymwys i ymarfer proffesiwn a reoleiddir gan unrhyw un neu ragor o’r cyrff a grybwyllir yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 20023 neu adran 67 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20164, a

(iii)

sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddiben cyflogaeth fel gweithiwr iechyd proffesiynol neu weithiwr gofal proffesiynol.”

(3)

Ym mharagraff (3F)(b), yn yr addasiad i reoliad 10(4), ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—

“(i)

pan fo P yn berson sy’n dod o fewn paragraff (2)(f), at ddiben ymgymryd â’r gwaith hwnnw.”

Diwygiad i Atodlen 3A6.

Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol), yn y lle priodol mewnosoder—

“India”.

Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod sydd i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 6B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn esemptio person sy’n cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol, sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddiben cludo deunyddiau penodol i’w defnyddio i ddarparu gwasanaeth iechyd gan ddarparwr gwasanaethau iechyd, rhag y gofyniad i drefnu profion cyn iddo gyrraedd.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 6K o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn cymhwyso’r gofynion ar brofi’r gweithlu i weithwyr iechyd neu weithwyr gofal penodol sy’n cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol er mwyn ymgymryd â chyflogaeth.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn caniatáu i’r ddau gategori hynny o berson gael mynediad i Gymru.

Mae rheoliad 6 yn diwygio Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n cynnwys y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol yng Nghymru. Mae rheoliad 6 yn ychwanegu India at y rhestr.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.