RHAN 2Diwygiadau i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Hepgor gwledydd a thiriogaethau o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt2.
(1)
Mae Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn lle’r cofnodion yn Rhan 1 (gwledydd, tiriogaethau a rhannau o wledydd neu diriogaethau), rhodder “Nid yw unrhyw wledydd, unrhyw diriogaethau nac unrhyw rannau o wledydd neu diriogaethau wedi eu pennu yn y Rhan hon”.
(3)
Yn lle’r cofnodion yn Rhan 2 (tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig), rhodder “Nid yw unrhyw diriogaethau wedi eu pennu yn y Rhan hon”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 23.
(1)
Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)
yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 18 Ionawr 2021 neu wedi hynny, a
(b)
wedi bod ddiwethaf mewn gwlad neu diriogaeth a oedd wedi ei rhestru yn Rhan 1 neu Ran 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn union cyn 4.00 a.m. ar 18 Ionawr 2021—
(i)
o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii)
cyn 4.00 a.m. ar 18 Ionawr 2021.
(2)
Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad neu diriogaeth a oedd wedi ei rhestru yn Rhan 1 neu Ran 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn union cyn 4.00 a.m. ar 18 Ionawr 2021, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.