NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”). Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny.

Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.

Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt. Mae rheoliad 2 yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn hepgor yr holl wledydd a thiriogaethau a restrir yn Rhan 1 a Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r newid yn statws y gwledydd hynny a’r tiriogaethau hynny. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 (personau esempt) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny yn esemptio categorïau penodol o weithiwr rhag gorfod darparu gwybodaeth am deithiwr ac rhag gorfod ynysu. Mae rheoliad 4 yn hepgor paragraff 37 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofynion ynysu: eithriadau). Mae rheoliad 5 yn hepgor is-baragraffau 4(jc) a 4(jd) o reoliad 10.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.