RHAN 7DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (BENTHYCIADAU AT RADD DDOETHUROL ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2018
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018175.
Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 13 (plant gweithwyr Twrcaidd) mewnosoder—
“13A.
Person—
(a)
sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd (“T”), pan oedd T yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;
(b)
a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i)
yn blentyn i T; a
(ii)
yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;
(c)
sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”