(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—
(a)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“y Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau”) – gweler Rhan 2,
(b)Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau CPC”) – gweler Rhan 3,
(c)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) – gweler Rhan 4,
(d)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau Graddau Meistr 2017”) – gweler Rhan 5,
(e)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) – gweler Rhan 6,
(f)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Graddau Doethurol”) – gweler Rhan 7, ac
(g)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau Graddau Meistr 2019”) – gweler Rhan 8.
Mae’r diwygiadau yn cymryd effaith mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2021. Y prif ddiwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yw—
(a)gwneud newidiadau o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd;
(b)gwneud newidiadau sy’n ymwneud â phersonau sydd â chaniatâd Calais neu bersonau penodol sy’n ddioddefwyr trais domestig neu gam-drin domestig neu sydd wedi cael profedigaeth.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i gynnwys y canlynol yn y categorïau o fyfyrwyr cymwys at ddibenion cymorth i fyfyrwyr, y rheini sydd â statws ffioedd cartref o dan y Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau a’r rheini sy’n bersonau rhagnodedig o dan y Rheoliadau CPC—
personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt, personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth, personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a phersonau sy’n bodloni gofynion paragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo, gan gynnwys plant y rhoddwyd “caniatâd oherwydd llinach” iddynt (personau â chaniatâd Calais);
personau y rhoddir caniatâd iddynt aros yn y Deyrnas Unedig o dan y rheolau mewnfudo oherwydd eu bod yn ddioddefwyr trais domestig neu gam-drin domestig neu oherwydd eu bod wedi cael profedigaeth a’u plant;
personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon;
personau sy’n dod o fewn cwmpas personol darpariaethau hawliau dinasyddion y cytundeb ymadael â’r UE, cytundeb gwahanu EFTA yr AEE a’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd (“y Cytundebau”) ac sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio (fel y diffinnir “residence scheme immigration rules” yn adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020);
personau sy’n dod o fewn cwmpas personol darpariaethau hawliau dinasyddion y Cytundebau sydd yn y cyfnod gras ar gyfer ceisiadau am ganiatâd o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, neu nad yw eu ceisiadau am ganiatâd o’r fath wedi eu penderfynu eto, a dinasyddion Gwyddelig nad yw’n ofynnol iddynt gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;
aelodau o deuluoedd personau perthnasol o Ogledd Iwerddon sydd â chaniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;
gweithwyr trawsffiniol o fewn ystyr “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1213);
personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig a arferodd hawl i breswylio yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;
gwladolion o’r Deyrnas Unedig ac aelodau o’u teuluoedd sydd, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi bod yn preswylio fel arfer yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir, mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Ionawr 2028;
aelodau o deuluoedd gwladolion o’r Deyrnas Unedig sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw;
gwladolion o’r Deyrnas Unedig ac aelodau o’u teuluoedd sy’n preswylio yn Gibraltar a phersonau sydd â hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;
plant gwladolion Swisaidd sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 18(2) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd;
plant gweithwyr Twrcaidd sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Mae’r diwygiadau hefyd yn gwneud mân gywiriadau.
Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018. Mae Rheoliadau 2018 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018.
Mae rheoliadau 116 i 118 yn diwygio darpariaeth sy’n ymwneud â chymhwystra i gael cymorth i fyfyrwyr drwy gynnwys cyfeiriad at y categorïau cymhwystra a fewnosodir yn Atodlen 2 i Reoliadau 2018 gan reoliadau 130 i 145. Mae’r diwygiadau yn cyfyngu categorïau cymhwystra presennol penodol i fyfyrwyr sy’n dod o fewn y categorïau hynny cyn 1 Awst 2021 ac sy’n ymgymryd â chwrs sy’n dechrau cyn y dyddiad hwnnw. Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer categorïau cymhwystra newydd nad ydynt wedi eu cyfyngu i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021.
Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 119 i 121 yn cymryd i ystyriaeth y categorïau newydd a fewnosodir yn Atodlen 2 i Reoliadau 2018 drwy wneud darpariaeth ar gyfer achosion pan fo person yn peidio â chael caniatâd Calais, caniatâd i aros fel partner a ddiogelir neu ganiatâd i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio.
Mae rheoliadau 122 i 129 yn gwneud diwygiadau cysylltiedig pellach i Reoliadau 2018, gan gynnwys diwygio’r amgylchiadau y caiff myfyriwr gymhwyso i gael cymorth odanynt yn ystod y flwyddyn academaidd i gymryd i ystyriaeth y newidiadau a wneir i Atodlen 2.
Mae rheoliadau 146 i 152 yn gwneud diwygiadau i Atodlenni 4 a 5 i Reoliadau 2018 i gymryd i ystyriaeth y diwygiadau a wneir i Atodlen 2.
Mae rheoliad 153 yn diwygio’r mynegai o dermau wedi eu diffinio yn Atodlen 7 i adlewyrchu’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn.
Mae Rhan 2 yn gwneud diwygiadau tebyg i’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau. Mae’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau yn awdurdodi codi ffioedd sy’n uwch yn achos myfyrwyr nad oes ganddynt gysylltiad penodedig â’r Deyrnas Unedig nag yn achos myfyrwyr sydd â chysylltiad o’r fath (y rheini sydd â statws ffioedd cartref). Mae’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau hefyd yn awdurdodi mabwysiadu rheolau cymhwystra sy’n cyfyngu dyfarniadau i’r rheini sydd â chysylltiad o’r fath â’r Deyrnas Unedig.
Mae Rhan 3 yn gwneud diwygiadau tebyg i’r Rheoliadau CPC. Mae’r Rheoliadau CPC yn rhagnodi’r cyrsiau cymhwysol a’r personau cymhwysol at ddibenion adran 5 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, sy’n nodi bod rhaid i gynlluniau ffioedd a mynediad sefydliadau bennu terfynau ffioedd neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfynau ffioedd mewn perthynas â chyrsiau cymhwysol. Uchafswm sy’n daladwy gan berson cymhwysol mewn perthynas â chwrs cymhwysol yw terfyn ffioedd ac mae’r Atodlen i’r Rheoliadau CPC yn rhestru’r personau hynny a all fod yn bersonau cymhwysol.
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau tebyg i Reoliadau 2017 ac yn gwneud diwygiadau i ddirymu Rhan 11 o Reoliadau 2017, sydd bellach yn ddiangen. Mae Rheoliadau 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2018.
Mae Rhan 5 yn gwneud diwygiadau tebyg i Reoliadau Graddau Meistr 2017. Mae Rheoliadau Graddau Meistr 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd feistr ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019.
Mae Rhan 7 yn gwneud diwygiadau tebyg i’r Rheoliadau Graddau Doethurol. Mae’r Rheoliadau Graddau Doethurol yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd ddoethurol ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018.
Mae Rhan 8 yn gwneud diwygiadau tebyg i Reoliadau Graddau Meistr 2019. Mae Rheoliadau Graddau Meistr 2019 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd feistr ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.