2021 Rhif 480 (Cy. 147)
Anifeiliaid, Cymru
Iechyd Anifeiliaid, Cymru

Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 7, 8(1), 15(4), 15(5), 17(1), 23, 25, 28, 29, 72, 83(2), 87(2), 87(3) ac 88(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19811.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021.

(2)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 21 Ebrill 2021.

Diwygio Gorchymyn Milheintiau 19892.

(1)

Mae Gorchymyn Milheintiau 19892 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn erthygl 4—

(a)

Ym mharagraff (1) —

(i)

ar ddiwedd is-baragraff (b), hepgorer “and”,

(ii)

yn lle is-baragraff (c), rhodder “(c) Coxiella burnetii; and”, a

(iii)

ar ôl is-baragraff (c), mewnosoder—

“(d)

severe acute respiratory syndrome coronavirus 2 (SARS-CoV-2).”;

(b)

Ym mharagraff (3)—

(i)

yn lle is-baragraff (b), rhodder “(b) in the case of the organism mentioned in paragraph (1)(c), any cattle, sheep, camelids and goats; and”, a

(ii)

ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—

“(c)

in the case of the organism mentioned in paragraph (1)(d), any mammal.”.

(3)

Yn erthygl 8—

(a)

ym mharagraff (1), yn lle “article 4(1)(a) or (b)” rhodder “4(1)(a), (b) or (c)”,

(b)

ym mharagraff 8(5)(a), yn lle “or rabbit”, rhodder “, camelid, rabbit or dog”.

(4)

Yn erthygl 8ZA—

(a)

yn y pennawd, yn lle “article 4(1)(c)” rhodder “article 4(1)(d)”,

(b)

ym mharagraff (1), yn lle “article 4(1)(c)”, rhodder “article 4(1)(d)”.

Diwygio Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 19963.

(1)

Mae Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 19963 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn erthygl 3—

(a)

ym mharagraff 1(b), ar ôl “Schedule 1” mewnosoder “and Schedule 1A”; a

(b)

ym mharagraff (4), ar ôl “Schedule 1” mewnosoder “or Schedule 1A”.

(3)

Ar ôl erthygl 4 mewnosoder—

“Notification of infection with Batrachochytrium salamandrivorans: Wales4A.

(1)

For the purposes of the Animal Health Act 1981 in its application to this article—

(a)

the definition of “animals” in section 87(1) is extended to include amphibians of the group Caudata; and

(b)

the definition of “disease” in section 88(1) is extended to include infection with Batrachochytrium salamandrivorans.

(2)

A person who—

(a)

has possession, or is in charge, of an amphibian, and

(b)

knows or reasonably suspects the amphibian is infected with Batrachochytrium salamandrivorans,

must give notice of this knowledge or suspicion as soon as practicable in accordance with article 5(1).

(3)

A veterinary surgeon, or other person, who in the course of that person’s duties—

(a)

examines or inspects an amphibian, and

(b)

knows or reasonably believes the amphibian to be infected with Batrachochytrium salamandrivorans,

must give notice of this knowledge or belief as soon as practicable in accordance with article 5(1).

(4)

A person who—

(a)

analyses a sample taken from an amphibian, and

(b)

knows or reasonably suspects that the amphibian is infected with Batrachochytrium salamandrivorans,

must give notice of this knowledge or suspicion as soon as practicable in accordance with article 5(1).

(5)

In paragraphs (2) to (4), “amphibian”—

(a)

means an amphibian of the group specified in paragraph (1)(a), and

(b)

includes the carcase, or part of a carcase, of an amphibian.

Notification of infection with Ebola virus: Wales4B.

(1)

For the purposes of the Animal Health Act 1981 in its application to this article—

(a)

the definition of “animals” in section 87(1) is extended to include primates other than man; and

(b)

the definition of “disease” in section 88(1) is extended to include infection with Ebola virus.

(2)

A person who—

(a)

has possession, or is in charge, of a primate, and

(b)

knows or reasonably suspects that the primate is infected with Ebola virus,

must give notice of this knowledge or suspicion as soon as practicable in accordance with article 5(1).

(3)

A veterinary surgeon, or other person, who in the course of that person’s duties—

(a)

examines or inspects a primate, and

(b)

knows or reasonably believes the primate to be infected with Ebola virus,

must give notice of this knowledge or belief as soon as practicable in accordance with article 5(1).

(4)

A person who—

(a)

analyses a sample taken from a primate, and

(b)

knows or reasonably suspects that the primate is infected with Ebola virus,

must give notice of this knowledge or suspicion as soon as practicable in accordance with article 5(1).

(5)

In paragraphs (2) to (4), “primate”—

(a)

means any kind of primate except man, and

(b)

includes the carcase, or part of a carcase, of a primate.”

(4)

Ar ôl erthygl 5(2), mewnosoder—

“(3)

Sub-paragraphs (b) and (c) of paragraph (1) do not apply in the case of notice given under article 4A or 4B.”

(5)

Yn erthygl 6, yn lle “article 3 or 4” rhodder “article 3, 4, 4A or 4B”.

(6)

Yn y rhestr o glefydau penodedig yn Rhan I o Atodlen 1, mewnosoder yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor—

“Contagious caprine pleuropneumonia”

“Glanders (Burkholderia mallei)”

“Surra (Trypanosoma evansi)”

(7)

Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder—

“SCHEDULE 1AFURTHER SPECIFIED DISEASES

Article 3

  • Bovine genital campylobacteriosis

  • Bovine Viral Diarrhoea

  • Infection with porcine reproductive and respiratory syndrome virus

  • Infection with bovine rhinotracheitis or infectious pustular vulvovaginitis

  • Paratuberculosis

  • Trichomonosis.”

Diwygio Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 20034.

(1)

Mae Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 20034 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn erthygl 3(2) yn lle “Orchymyn datganiadol” rhodder “ddatganiad”.

(3)

Ar ôl erthygl 4, mewnosoder—

“Y weithdrefn hysbysu pan fo heintiad â Mycoplasmosis Adar yn hysbys neu wedi’i amau4A.

(1)

Rhaid i berson—

(a)

sy’n dadansoddi sampl a gymerwyd o aderyn neu garcas aderyn, a

(b)

sy’n gwybod neu’n amau’n rhesymol fod yr aderyn neu’r carcas wedi’i heintio â Mycoplasmosis Adar (heintiad â Mycoplasma gallisepticum ac M. meleagridis),

hysbysu Gweinidogion Cymru am yr wybodaeth neu’r amheuaeth honno cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(2)

Nid yw’r erthygl hon ond yn gymwys i ffowls domestig a thyrcwn.

Y weithdrefn hysbysu pan fo heintiad â Clamydiosis Adar yn hysbys neu wedi’i amau4B.

(1)

Rhaid i berson—

(a)

sy’n dadansoddi sampl a gymerwyd o aderyn neu garcas aderyn, a

(b)

sy’n gwybod neu’n amau’n rhesymol fod yr aderyn neu’r carcas wedi’i heintio â Clamydiosis adar,

hysbysu Gweinidogion Cymru am yr wybodaeth neu’r amheuaeth honno cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(2)

Nid yw’r erthygl hon ond yn gymwys i adar o’r urdd psittacines.”

(4)

Yn erthygl 9—

(a)

ym mharagraffau (1) a (2), hepgorer “drwy Orchymyn datganiadol,”;

(b)

ym mharagraffau (3), (5) a (6), yn lle “Gorchymyn datganiadol” rhodder “datganiad” ac yn lle “Orchymyn datganiadol” rhodder “ddatganiad”;

(c)

ym mharagraff (7), yn lle “Gorchymyn datganiadol” rhodder “datganiad”.

Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddir gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p. 22) (“Deddf 1981”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Milheintiau 1989 (O.S. 1989/285) er mwyn ychwanegu Coxiella burnetii at yr organeddau sydd wedi eu dynodi at ddibenion adran 29 o Ddeddf 1981 (organeddau y mae’r darpariaethau penodedig o’r Ddeddf yn gymwys iddynt). Mae dynodi Coxiella burnetii yn gymwys mewn perthynas ag achosion pan fo’r organedd hwnnw yn cael ei gario mewn unrhyw wartheg, defaid, camelidau neu eifr. Mae hefyd yn cymhwyso’r gofyniad i adrodd ar achosion o ganfod organeddau o’r genws salmonela a brwsela a ganfyddir mewn samplau a gymerir o anifeiliaid er mwyn cynnwys samplau a gymerir o gŵn.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 (O.S. 1996/2628) (“y Gorchymyn Clefydau Penodedig”). Mae’n gwneud y newidiadau a ganlyn—

(a)

mae’r diffiniad o “disease” yn adran 88 o Ddeddf 1981, o ran ei chymhwyso i erthygl 3 (hysbysu am glefydau penodedig) o’r Gorchymyn Clefydau Penodedig, wedi ei estyn er mwyn cynnwys y clefydau a restrir yn yr Atodlen 1A newydd;

(b)

mae erthygl 3(4) o’r Gorchymyn Clefydau Penodedig wedi ei diwygio er mwyn gwneud hysbysiad yn ofynnol gan berson sydd, yn dilyn dadansoddiad o sampl a gymerwyd o anifail neu garcas, yn amau’n rhesymol bod anifail neu garcas wedi ei heintio â campylobacteriosis cenhedlol buchol, dolur rhydd feirysol buchol, feirws syndrom atgenhedlu ac anadlu’r moch, rhinotraceitis buchol neu fylfaweinwst llinorog heintus, paratwbercwlosis neu dricomonosis (a restrir yn yr Atodlen 1A newydd);

(c)

mae erthyglau newydd 4A a 4B wedi eu mewnosod yn y Gorchymyn Clefydau Penodedig i’w gwneud yn ofynnol hysbysu am achos, neu achos a amheuir, o Batrachochytrium salamandrivorans mewn amffibiad a feirws Ebola mewn primat; a

(d)

mae’r rhestr o glefydau penodedig yn Rhan I o Atodlen 1 i’r Gorchymyn Clefydau Penodedig wedi ei diwygio er mwyn cynnwys pliwroniwmonia gafraidd heintus, llynmeirch (Burkholderia mallei) a swrra (Trypanosoma evansi).

Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1079 (Cy. 148)) er mwyn ychwanegu dyletswydd newydd i hysbysu Gweinidogion Cymru am achosion hysbys neu achosion a amheuir o Mycoplasmosis Adar a Clamydiosis Adar mewn rhywogaethau penodol o adar. Mae hefyd yn cael gwared ar y gofyniad i Orchymyn datganiadol gael ei wneud pan fydd clefyd dynodedig mewn dofednod yn cael ei gadarnhau ac yn rhoi yn ei le y gofyniad i ddatganiad gael ei wneud yn hytrach na hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.