Diwygio Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003

4.—(1Mae Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 3(2) yn lle “Orchymyn datganiadol” rhodder “ddatganiad”.

(3Ar ôl erthygl 4, mewnosoder—

Y weithdrefn hysbysu pan fo heintiad â Mycoplasmosis Adar yn hysbys neu wedi’i amau

4A.(1) Rhaid i berson—

(a)sy’n dadansoddi sampl a gymerwyd o aderyn neu garcas aderyn, a

(b)sy’n gwybod neu’n amau’n rhesymol fod yr aderyn neu’r carcas wedi’i heintio â Mycoplasmosis Adar (heintiad â Mycoplasma gallisepticum ac M. meleagridis),

hysbysu Gweinidogion Cymru am yr wybodaeth neu’r amheuaeth honno cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(2) Nid yw’r erthygl hon ond yn gymwys i ffowls domestig a thyrcwn.

Y weithdrefn hysbysu pan fo heintiad â Clamydiosis Adar yn hysbys neu wedi’i amau

4B.(1) Rhaid i berson—

(a)sy’n dadansoddi sampl a gymerwyd o aderyn neu garcas aderyn, a

(b)sy’n gwybod neu’n amau’n rhesymol fod yr aderyn neu’r carcas wedi’i heintio â Clamydiosis adar,

hysbysu Gweinidogion Cymru am yr wybodaeth neu’r amheuaeth honno cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(2) Nid yw’r erthygl hon ond yn gymwys i adar o’r urdd psittacines.

(4Yn erthygl 9—

(a)ym mharagraffau (1) a (2), hepgorer “drwy Orchymyn datganiadol,”;

(b)ym mharagraffau (3), (5) a (6), yn lle “Gorchymyn datganiadol” rhodder “datganiad” ac yn lle “Orchymyn datganiadol” rhodder “ddatganiad”;

(c)ym mharagraff (7), yn lle “Gorchymyn datganiadol” rhodder “datganiad”.