Diwygio Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 20034.

(1)

Mae Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 20034 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn erthygl 3(2) yn lle “Orchymyn datganiadol” rhodder “ddatganiad”.

(3)

Ar ôl erthygl 4, mewnosoder—

“Y weithdrefn hysbysu pan fo heintiad â Mycoplasmosis Adar yn hysbys neu wedi’i amau4A.

(1)

Rhaid i berson—

(a)

sy’n dadansoddi sampl a gymerwyd o aderyn neu garcas aderyn, a

(b)

sy’n gwybod neu’n amau’n rhesymol fod yr aderyn neu’r carcas wedi’i heintio â Mycoplasmosis Adar (heintiad â Mycoplasma gallisepticum ac M. meleagridis),

hysbysu Gweinidogion Cymru am yr wybodaeth neu’r amheuaeth honno cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(2)

Nid yw’r erthygl hon ond yn gymwys i ffowls domestig a thyrcwn.

Y weithdrefn hysbysu pan fo heintiad â Clamydiosis Adar yn hysbys neu wedi’i amau4B.

(1)

Rhaid i berson—

(a)

sy’n dadansoddi sampl a gymerwyd o aderyn neu garcas aderyn, a

(b)

sy’n gwybod neu’n amau’n rhesymol fod yr aderyn neu’r carcas wedi’i heintio â Clamydiosis adar,

hysbysu Gweinidogion Cymru am yr wybodaeth neu’r amheuaeth honno cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(2)

Nid yw’r erthygl hon ond yn gymwys i adar o’r urdd psittacines.”

(4)

Yn erthygl 9—

(a)

ym mharagraffau (1) a (2), hepgorer “drwy Orchymyn datganiadol,”;

(b)

ym mharagraffau (3), (5) a (6), yn lle “Gorchymyn datganiadol” rhodder “datganiad” ac yn lle “Orchymyn datganiadol” rhodder “ddatganiad”;

(c)

ym mharagraff (7), yn lle “Gorchymyn datganiadol” rhodder “datganiad”.