RHAN 3Atebolrwydd gweithredwyr mewn cysylltiad â chyrraedd
Dehongli4.
Yn y Rhan hon—
ystyr “y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol” (“the requirement to possess notification of a negative test result”) yw’r gofyniad yn rheoliad 6A(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
ystyr “gwasanaeth teithwyr rhyngwladol” (“international passenger service”) yw gwasanaeth masnachol y mae teithwyr yn teithio ar lestr neu awyren arno o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i borthladd yng Nghymru;
ystyr “gweithredwr” (“operator”) F1, ac eithrio yn rheoliad 5B, yw gweithredwr gwasanaeth teithwyr rhyngwladol;
F2ystyr “hysbysiad gofynnol” (“required notification”) yw hysbysiad o ganlyniad prawf ar gyfer canfod y coronafeirws sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn yn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg—
(a)
enw’r person y cymerwyd sampl y prawf ohono,
(b)
dyddiad geni neu oed y person hwnnw,
(c)
canlyniad negyddol y prawf hwnnw,
(d)
y dyddiad y casglwyd sampl y prawf neu’r dyddiad y cafodd darparwr y prawf ef,
(e)
F3datganiad—
- (i)
bod y prawf yn brawf adwaith cadwynol polymerasau, neu
- (ii)
o enw’r ddyfais a ddefnyddiwyd ar gyfer y prawf,
(f)
enw darparwr y prawf;
ystyr “llestr” (“vessel”) yw pob disgrifiad o lestr a ddefnyddir wrth fordwyo (gan gynnwys hofrenfad o fewn ystyr “hovercraft“ yn Neddf Hofrenfadau 1968) y mae ei hyd yn 24 o fetrau neu fwy;
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) F6, ac eithrio yn rheoliad 5B, yw —
(a)
mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar lestr, yr Ysgrifennydd Gwladol;
(b)
ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed;
mae “porthladd” (“port”) yn cynnwys maes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr;
F7...
ystyr “teithiwr” (“passenger”) yw person sy’n teithio ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol nad yw’n aelod o griw y gwasanaeth hwnnw;
F8ystyr “teithiwr Atodlen 3A” (“Schedule 3A passenger”) yw person sydd wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ac nad yw’n berson y mae rheoliad 12E(2) a (3) o’r rheoliadau hynny yn gymwys iddo;
F9ystyr “teithiwr perthnasol” (“relevant passenger”) yw—
(a)
teithiwr sy’n methu, heb esgus rhesymol—
- (i)
â dangos hysbysiad dilys o ganlyniad negyddol i brawf cymhwysol pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6A(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, neu
- (ii)
â darparu cyfeirnod prawf neu dystiolaeth arall bod profion ar gyfer canfod y coronafeirws wedi eu trefnu mewn cysylltiad â’r teithiwr i swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6B(8) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, neu
(b)
teithiwr sy’n cyrraedd porthladd yng Nghymru yn groes i reoliad 12E(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
ystyr “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yw unigolyn—
(a)
sydd â gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu
(b)
Gofyniad i sicrhau bod teithwyr yn meddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol5.
(1)
Rhaid i weithredwr sicrhau bod teithiwr sy’n cyrraedd Cymru ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol yn meddu ar hysbysiad gofynnol.
(2)
Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â theithiwr—
(a)
y mae’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, yn credu’n rhesymol nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â’r gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol neu fod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r gofyniad hwnnw;
F10(aa)
sy’n cael ei orfodi’n gyfreithlon i deithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs estraddodiad, dychweliad carcharor neu allgludiad;
(b)
sy’n blentyn, sy’n teithio heb unigolyn cyfrifol; neu
(c)
sy’n deithiwr tramwy, sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig ac nad oes ganddo’r hawl i ddod i’r wlad neu’r diriogaeth y mae’r gwasanaeth teithwyr rhyngwladol yn ymadael ohoni.
(3)
Yn y rheoliad hwn, ystyr “teithiwr tramwy” yw person sydd wedi cyrraedd y wlad neu’r diriogaeth y mae’r gwasanaeth teithwyr rhyngwladol yn ymadael ohoni gyda’r bwriad o fynd drwyddi i Gymru heb fynd i’r wlad honno neu’r diriogaeth honno.
F11Gofyniad i sicrhau bod teithwyr yn meddu ar hysbysiad o drefniadau profi ar ôl cyrraedd5A.
(1)
Rhaid i weithredwr sicrhau bod teithiwr sy’n cyrraedd Cymru ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol yn meddu ar hysbysiad o drefniadau profi ar ôl cyrraedd.
(2)
Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â theithiwr—
(a)
y mae’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, yn credu’n rhesymol nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â’r gofyniad yn F12rheoliad 6AB o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol F13(gofyniad i archebu a chymryd profion) neu bod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r gofyniad hwnnwF14;
F15(aa)
sy’n cael ei orfodi’n gyfreithlon i deithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs estraddodiad, dychweliad carcharor neu allgludiad; neu
(b)
sy’n blentyn, yn teithio heb unigolyn cyfrifol.
Gofyniad i sicrhau nad yw teithwyr penodol yn cyrraedd porthladdoedd yng Nghymru5B.
(1)
Rhaid i weithredwr gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw teithiwr Atodlen 3A yn cyrraedd porthladd yng Nghymru ar wasanaeth trafnidiaeth perthnasol.
(2)
Nid yw paragraff (1) yn gymwys—
(a)
pan fo’n angenrheidiol i beilot sydd â rheolaeth o awyren lanio’r awyren sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau—
(i)
diogelwch yr awyren, neu
(ii)
diogelwch unrhyw berson sydd ar yr awyren;
(b)
pan fo awyren yn ambiwlans awyr ac yn glanio yng Nghymru at ddibenion cludo person i gael triniaeth feddygol;
(c)
pan fo’r peilot sydd â rheolaeth o awyren yn cael cyfarwyddyd gan berson awdurdodedig i lanio’r awyren yng Nghymru.
(3)
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth” (“transport service”) yw—
(a)
gwasanaeth teithwyr rhyngwladol,
(b)
gwasanaeth (ac eithrio gwasanaeth teithwyr rhyngwladol)—
- (i)
sy’n cludo teithwyr sy’n teithio i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin (boed am daliad neu gydnabyddiaeth brisiadwy neu fel arall), a
- (ii)
a ddarperir gan awyren (ac eithrio awyren breifat), neu
(c)
hediad —
- (i)
sy’n cludo teithwyr sy’n teithio i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin (boed am daliad neu gydnabyddiaeth brisiadwy neu fel arall), a
- (ii)
a ddarperir gan awyren breifat;
ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth perthnasol” (“relevant transport service”), mewn perthynas â gweithredwr, yw gwasanaeth trafnidiaeth a ddarperir gan y gweithredwr hwnnw neu ar ei ran;
mae i “gweithredwr”, mewn perthynas â gwasanaeth trafnidiaeth a ddarperir gan awyren, yr ystyr a roddir i “operator” yn erthygl 4 o Orchymyn Llywio Awyr 2016;
mae i “peilot sydd â rheolaeth” ac “awyren breifat” yr ystyron a roddir i “pilot in command” a “private aircraft” yng Ngorchymyn Llywio Awyr 2016 (gweler Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw);
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw—
(a)
cwnstabl,
(b)
yr Awdurdod Hedfan Sifil,
(c)
yr Ysgrifennydd Gwladol, neu
(d)
person a awdurdodwyd gan yr Awdurdod Hedfan Sifil neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn Llywio Awyr 2016;
F16...
F17Gofyniad i wirio statws brechu5C.
(1)
Rhaid i weithredwr sicrhau bod teithiwr, ac eithrio teithiwr Atodlen 3A, (“P”)—
(a)
sydd ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol; a
(b)
sydd wedi dangos, gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwr), bod P yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd o ran brechu yn erbyn COVID-19 ar gyfer llai o ofynion ynysu a phrofi,
yn meddu ar y dystiolaeth ofynnol pan fo P yn cyrraedd porthladd yng Nghymru.
(2)
Ym mharagraff (1) ystyr “y dystiolaeth ofynnol” yw—
(a)
tystiolaeth o’r disgrifiad a geir yn rheoliad 2A(3)(c), (3)(ca), (4)(b), (4A)(b) a (d) neu (6)(a)(ii) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; neu
(b)
pan fo P yn bwriadu manteisio ar yr esemptiad yn rheoliad 2A(5) neu (6)(b) o’r rheoliadau hynny (mae P o dan 18 mlwydd a 3 mis oed), tystiolaeth o oedran P.
(3)
Rhaid i weithredwr roi ar waith a chynnal prosesau a systemau i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad ym mharagraff (1).
(4)
Nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys yn achos gweithredwr gwasanaeth teithwyr rhyngwladol sy’n cychwyn yn Ffrainc Fetropolitanaidd.
Gofyniad i wirio esemptiadau5D.
(1)
Pan fo teithiwr sy’n cyrraedd Cymru ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol, gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, yn dangos ei fod yn berson y cyfeirir ato mewn paragraff yn Atodlen 2 i’r rheoliadau hynny (esemptiadau), rhaid i weithredwr sicrhau bod y teithiwr yn meddu ar dystiolaeth ei fod yn berson o’r fath.
(2)
Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â pherson a ddisgrifir ym mharagraff 6(2)(d)(i) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gweithiwr cludiant teithwyr ffyrdd), sy’n gyrru cerbyd nwyddau sydd wedi cael ei gludo neu a fydd yn cael ei gludo i Gymru ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol
Troseddau6.
F18(1)
Mae gweithredwr sy’n methu â chydymffurfio â gofyniad yn—
(a)
rheoliad 5(1),
(b)
rheoliad 5A(1), F19...
(c)
rheoliad5B(1),
F20(d)
rheoliad 5C(1),
(e)
rheoliad 5C(3), neu
(f)
rheoliad 5D,
yn cyflawni trosedd.
(2)
Mae trosedd o dan baragraff (1) i’w chosbi ar gollfarn ddiannod drwy ddirwy.
(3)
Mewn perthynas â’r drosedd ym mharagraff F21(1)(a), mae’n amddiffyniad i weithredwr ddangos bod y teithiwr perthnasol wedi dangos dogfen sy’n honni ei bod yn hysbysiad gofynnol na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol i’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, wybod nad oedd yn hysbysiad gofynnol.
F22(4)
Mewn perthynas â throsedd ym mharagraff (1)(b), mae’n amddiffyniad i weithredwr ddangos na ellid yn rhesymol fod wedi disgwyl i’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, wybod bod hysbysiad o drefniadau profi ar ôl cyrraedd a ddarparwyd mewn cysylltiad â theithiwr perthnasol yn ffug neu’n anghywir mewn unrhyw fodd.
(5)
Mewn perthynas â throsedd ym mharagraff (1)(c), mae’n amddiffyniad i weithredwr ddangos na ellid yn rhesymol fod wedi disgwyl i’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, wybod bod teithiwr perthnasol yn deithiwr Atodlen 3A.
F23(6)
Mewn perthynas â throsedd ym mharagraff (1)(d), mae’n amddiffyniad i’r gweithredwr ddangos bod y teithiwr perthnasol wedi cyflwyno dogfen sy’n honni ei bod yn dystiolaeth ofynnol na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol i’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, wybod nad oedd yn dystiolaeth ofynnol.
(7)
Mewn perthynas â throsedd ym mharagraff (1)(e), mae’n amddiffyniad i’r gweithredwr ddangos nad oedd yn rhesymol ymarferol bod â’r prosesau a’r systemau yn eu lle ar yr adeg berthnasol.
(8)
Mewn perthynas â throsedd ym mharagraff (1)(f), mae’n amddiffyniad i weithredwr ddangos bod y teithiwr wedi cyflwyno dogfen sy’n honni ei bod yn dystiolaeth briodol na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol i’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, wybod nad oedd yn dystiolaeth briodol.
Hysbysiadau cosb benodedig7.
(1)
Caiff person awdurdodedig ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw weithredwr y mae’r person awdurdodedig yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 6(1).
(2)
Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r gweithredwr y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—
(a)
Gweinidogion Cymru; neu
(b)
person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.
(3)
Pan ddyroddir hysbysiad i weithredwr o dan baragraff (1) mewn cysylltiad â throsedd—
(a)
ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dilyn y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;
(b)
ni chaniateir euogfarnu’r gweithredwr o’r drosedd os yw’r gweithredwr yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(4)
Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)
rhoi manylion rhesymol fanwl yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd, gan gynnwys enw’r teithiwr perthnasol;
(b)
datgan y cyfnod pan (oherwydd paragraff (3)(a)) na ddygir achos am y drosedd;
(c)
pennu swm y gosb benodedig;
(d)
datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r cosb benodedig iddo neu y mae tystiolaeth o’r amddiffyniad i’w darparu iddo; ac
(e)
pennu dulliau o dalu a ganiateir.
(5)
Swm yr hysbysiad cosb benodedig at ddibenion paragraff (4)(c) yw £1,000.
(6)
Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—
(a)
sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi ar ran—
(i)
Gweinidogion Cymru, neu
(ii)
unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2)(b), a
(b)
sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.
Erlyn8.
Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan reoliad 6(1) ond gan berson awdurdodedig.
Pŵer i ddefnyddio ac i ddatgelu gwybodaeth9.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson (“P”) sy’n dal gwybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2) sy’n ymwneud â theithiwr perthnasol (“gwybodaeth berthnasol”).
(2)
Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—
(a)
(b)
gwybodaeth am y camau a gymerwyd, yn unol â’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mewn perthynas â’r teithiwr perthnasol, gan gynnwys manylion unrhyw hysbysiad cosb benodedig a ddyroddwyd o dan y Rheoliadau hynny,
(c)
manylion personol y teithiwr perthnasol, gan gynnwys ei—
(i)
enw llawn,
(ii)
dyddiad geni,
(iii)
rhif basbort, neu gyfeirnod dogfen deithio (fel y bo’n briodol), dyddiadau dyroddi a dod i ben a’r awdurdod dyroddi,
(iv)
cyfeiriad cartref,
(v)
rhif ffôn,
(vi)
cyfeiriad e-bost,
(d)
manylion taith y teithiwr perthnasol, gan gynnwys—
(i)
yr amser a’r dyddiad y cyrhaeddodd Gymru,
(ii)
enw gweithredwr y gwasanaeth teithwyr rhyngwladol y cyrhaeddodd arno neu yr archebwyd ei daith drwyddo,
(iii)
rhif yr hediad neu enw’r llestr,
(iv)
lleoliadau ymadael a chyrraedd y gwasanaeth teithwyr rhyngwladol.
(3)
Ni chaiff P ddefnyddio gwybodaeth berthnasol ond pan fo’n angenrheidiol at ddiben cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn.
(4)
Ni chaiff P ddatgelu gwybodaeth berthnasol i berson arall (“y derbynnydd”) ond pan fo’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael yr wybodaeth berthnasol at ddiben cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn.
(5)
Nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu ar yr amgylchiadau y caniateir datgelu gwybodaeth yn gyfreithlon fel arall o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol arall.
(6)
Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi defnyddio neu ddatgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.
(7)
Adolygu10.
Dod i ben11.
(1)
Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd F2831 Mai 2022.
(2)
Nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau hyn yn dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.