RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 18 Ionawr 2021.

(3)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 18.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Dehongli2.

Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “ardal deithio gyffredin” yr ystyr a roddir i “common travel area” yn adran 1(3) o Ddeddf Mewnfudo 19712;
ystyr “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” (“the International Travel Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20203.