(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r perygl i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae adran 45B o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben (ymysg pethau eraill) atal perygl i iechyd y cyhoedd o lestrau, awyrennau, trenau neu gludiant arall sy’n cyrraedd unrhyw le (“vessels, aircraft, trains or other conveyances arriving at any place”).
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) i gyflwyno gofyniad i bersonau sy’n teithio i Gymru o’r tu allan i’r ardal ffiniau agored feddu ar hysbysiad o brawf coronafeirws negyddol wrth gyrraedd Cymru.
Mae rheoliad 3(2) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 6A newydd yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n nodi’r gofynion hysbysu ac yn rhoi manylion personau sy’n esempt rhag y gofynion hyn. Mae rheoliad 6A hefyd yn cyfeirio at Atodlen 1A newydd i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, a fewnosodir gan reoliad 3(6) ac sy’n rhoi manylion pellach ynghylch beth yw prawf a hysbysiad dilys at ddibenion rheoliad 6A ac sy’n rhoi manylion pellach mewn perthynas â chategorïau o bersonau esempt.
Mae rheoliad 3(3) yn diwygio rheoliad 14 o’r Reoliadau Teithio Rhyngwladol fel bod torri’r gofynion yn rheoliad 6A yn drosedd ac yn rhoi rhestr nad yw’n hollgynhwysfawr o esgusodion rhesymol y gellir eu cyflwyno fel amddiffyniad.
Mae rheoliad 3(4) yn diwygio rheoliad 16 o’r Reoliadau Teithio Rhyngwladol fel y gellir dyroddi hysbysiad cosb benodedig mewn perthynas â throsedd a gyflawnwyd o dan reoliad 6A.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno gofyniad i bersonau sy’n gweithredu gwasanaethau rhyngwladol i deithwyr (“gweithredwyr”) sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i sicrhau bod teithwyr ar wasanaethau o’r fath yn meddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol (rheoliad 5(1)). Mae torri’r gofyniad hwn yn drosedd (rheoliad 6(1)).
Mae rheoliad 7 yn caniatáu i berson awdurdodedig ymdrin â throsedd o dan reoliad 6(1) drwy hysbysiad cosb benodedig. Rhaid i hysbysiad cosb benodedig roi manylion y drosedd, gan gynnwys enw’r teithiwr sydd wedi methu â darparu hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol.
Nid oes asesiad effaith llawn wedi ei gwblhau oherwydd natur frys yr offeryn hwn. Mae Memorandwm Esboniadol wedi ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r offeryn hwn ar www.legislation.gov.uk.