RHAN 1Cyffredinol
Enwi, dod i rym a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021.
(2)
Daw Rhannau 1, 3 a 4 o’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 15 Ionawr 2021.
(3)
Daw Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 16 Ionawr 2021.
(4)
Yn y Rheoliadau hyn—
(a)
ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202;
(b)
ystyr y “Rheoliadau Cyfyngiadau” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20203.