RHAN 3Diwygiadau eraill i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Ychwanegu gwledydd at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol4.

Yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol), yn y lle priodol mewnosoder—

“Ariannin”

“Brasil”

“Bolivia”

“Chile”

“Colombia”

“Ecuador”

“Guiana Ffrengig”

“Guyana”

“Gweriniaeth Cabo Verde”

“Gweriniaeth Panamá”

“Paraguay”

“Periw”

“Portiwgal”

“Suriname”

“Uruguay”

“Venezuela”.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 4 mewn grym ar 15.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 45.

Nid yw rheoliad 12F o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw hediad neu daith a gychwynnodd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Annotations:
Commencement Information

I2Rhl. 5 mewn grym ar 15.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygio rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol6.

Yn rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

“(9)

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan, o ran P—

(a)

mae’n weithiwr cludiant ffyrdd (o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 6 o Atodlen 2),

(b)

bu ddiwethaf ym Mhortiwgal o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, ac

(c)

nid yw, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi bod mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall a restrir yn Atodlen 3A.”

Annotations:
Commencement Information

I3Rhl. 6 mewn grym ar 15.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygio Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol7.

Ym mharagraff 8 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, hepgorer “yn unol â Chonfensiwn Llafur Morwrol 2006 neu Gonfensiwn Gwaith mewn Pysgota 2007”.