RHAN 2LL+CDiwygiadau i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Hepgor gwledydd a thiriogaethau o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esemptLL+C

2.  Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer y cofnodion a ganlyn—

Aruba

ynysoedd Açores

Bonaire, Sint Eustatius a Saba

Chile

Madeira

Qatar.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 2 mewn grym ar 16.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(3)

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2LL+C

3.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 16 Ionawr 2021 neu wedi hynny, a

(b)wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 ddiwethaf—

(i)o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a

(ii)cyn 4.00 a.m. ar 16 Ionawr 2021.

(2Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 3 mewn grym ar 16.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(3)