NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r diwygiadau yn darparu y bydd y cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 3A i’r prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymwys i Gymru gyfan tan ddiwedd y diwrnod ar 25 Ebrill 2021. Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio cyfyngiadau a gofynion Atodlen 3A er mwyn—

(a)

dileu’r gwaharddiad ar ymgynnull at ddibenion darbwyllo person i bleidleisio neu i beidio â phleidleisio mewn modd penodol mewn etholiad (canfasio);

(b)

galluogi i bob mangre fanwerthu ailagor;

(c)

caniatáu i bob gwasanaeth personol cysylltiad agos agor ei fangre, caniatáu i wasanaethau o’r fath gael eu darparu mewn anheddau preifat, a chaniatáu i sbaon a chyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd o dan do agor at ddibenion darparu gwasanaethau o’r fath (yn unig);

(d)

caniatáu i leoliadau priodasau agor at ddibenion galluogi person i ymweld â’r lleoliad, drwy apwyntiad, gyda golwg ar ei archebu mewn perthynas â gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath;

(e)

caniatáu i amlosgfeydd agor yn gyfan gwbl (ac mae newid cyfatebol wedi ei wneud i Atodlen 4 fel na fydd yn ofynnol i amlosgfeydd gau o dan Lefel Rhybudd 4 ychwaith).

Mae’r Rheoliadau hefyd yn dileu’r cyfyngiadau teithio presennol ar draws pob Lefel Rhybudd ac yn diwygio’r prif Reoliadau er mwyn gosod cyfyngiadau a gofynion sy’n ymwneud â theithio rhyngwladol sy’n gymwys i bob Lefel Rhybudd. Maent—

(a)

yn darparu na chaiff unrhyw berson ymadael â Chymru i fynd i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin (y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon) heb esgus rhesymol;

(b)

yn darparu bod rhaid i unrhyw berson sydd mewn man cychwyn (er enghraifft, maes awyr) at ddibenion ymadael â’r ardal deithio gyffredin ddarparu ffurflen datganiad teithio rhyngwladol wedi ei chwblhau i swyddog gorfodaeth ar gais.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio’r prif Reoliadau i’w gwneud yn ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gyflawni neu hwyluso gweithgaredd a wneir at ddibenion darbwyllo person i bleidleisio neu i beidio â phleidleisio mewn modd penodol mewn etholiad (er enghraifft, canfasio) gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y gweithgaredd ac o ledaenu’r coronafeirws ynddo. Rhaid i’r person sy’n gyfrifol hefyd roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y mesurau rhesymol. Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, gan gynnwys i ddarparu ar gyfer gorfodi’r darpariaethau newydd ar deithio rhyngwladol.

O ganlyniad i’r diwygiadau sy’n ymwneud â theithio rhyngwladol, mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 er mwyn gosod gofyniad ar weithredwyr gwasanaethau trafnidiaeth masnachol sy’n ymadael â Chymru i fynd i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin. Bydd yn ofynnol i weithredwyr o’r fath ddarparu gwybodaeth i deithwyr ynghylch y cyfyngiad ar ymadael â Chymru i fynd i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin a’r gofyniad i gwblhau ffurflen datganiad teithio rhyngwladol. Mae’r wybodaeth hon i’w darparu ar yr adeg archebu ac o leiaf 24 awr cyn yr amser y disgwylir i’r gwasanaeth ymadael.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.