RHAN 2Rhoi, adnewyddu ac amrywio trwydded â chydsyniad ac arolygu mangre

Amodau rhoi neu adnewyddu trwydded4.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)

pan fo awdurdod lleol wedi cael cais ysgrifenedig oddi wrth weithredwr i roi neu adnewyddu trwydded i gynnal gweithgaredd trwyddedadwy ar fangre yn ardal yr awdurdod lleol, a

(b)

pan fo’r cais yn rhoi’r wybodaeth honno sy’n ofynnol gan yr awdurdod lleol.

(2)

Rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)

penodi un neu ragor o arolygwyr sy’n meddu ar gymwysterau addas i arolygu unrhyw fangre y mae’r gweithgaredd trwyddedadwy, neu unrhyw ran ohono, yn cael ei gynnal neu i’w gynnal arni, a

(b)

yn dilyn yr arolygiad hwnnw, roi trwydded i’r gweithredwr, neu adnewyddu trwydded y gweithredwr, yn unol â’r cais, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(i)

y caiff amodau’r drwydded eu bodloni,

(ii)

bod unrhyw ffi briodol wedi ei thalu yn unol â rheoliad 12, a

(iii)

bod rhoi neu adnewyddu’r drwydded yn briodol ar ôl ystyried yr adroddiad a gyflwynir iddo yn unol â rheoliad 9.

(3)

Rhaid i awdurdod lleol atodi i bob trwydded a roddir neu a adnewyddir—

(a)

yr amodau cyffredinol, a

(b)

yr amodau penodol perthnasol.

(4)

Wrth ystyried pa un a gaiff amodau’r drwydded eu bodloni, rhaid i awdurdod lleol ystyried ymddygiad y ceisydd fel gweithredwr y gweithgaredd trwyddedadwy y mae’r cais am roi neu adnewyddu trwydded yn ymwneud ag ef, pa un a yw’r ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn weithredwr y gweithgaredd hwnnw ac unrhyw amgylchiadau perthnasol eraill.

(5)

Ni chaniateir i awdurdod lleol roi trwydded i weithredwr, neu adnewyddu trwydded gweithredwr, o dan unrhyw amgylchiadau ac eithrio’r rhai a ddisgrifir yn y Rheoliadau hyn.

(6)

Mae pob trwydded a roddir neu a adnewyddir mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau trwyddedadwy hyn yn ddarostyngedig i amodau’r drwydded.

Cyfnod trwydded5.

Caiff awdurdod lleol roi neu adnewyddu trwydded am unrhyw gyfnod hyd at 1 flwyddyn.

Pŵer i gymryd samplau o anifeiliaid6.

Caiff arolygydd, at ddibenion sicrhau y cydymffurfir ag amodau’r drwydded, gymryd samplau ar gyfer profion labordy o unrhyw anifeiliaid ar fangre a feddiennir gan weithredwr.

Dyletswydd i gynorthwyo o ran cymryd samplau o anifeiliaid7.

Rhaid i weithredwr gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan arolygydd i hwyluso adnabod ac archwilio anifail a chymryd samplau yn unol â rheoliad 6 ac, yn benodol, rhaid iddo drefnu i anifail gael ei atal mewn ffordd addas os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd.

Amrywio neu ddirymu trwydded ar gais deiliad trwydded, neu â chydsyniad deiliad trwydded8.

Caiff awdurdod lleol ar unrhyw adeg amrywio neu ddirymu trwydded—

(a)

ar gais ysgrifenedig deiliad y drwydded, neu

(b)

ar ei gymhelliad ei hun, gyda chydsyniad ysgrifenedig deiliad y drwydded.

Adroddiad yr arolygydd9.

(1)

Pan fo awdurdod lleol yn trefnu arolygiad yn unol â rheoliad 4(2)(a), rhaid iddo drefnu i’r arolygydd gyflwyno adroddiad iddo.

(2)

Rhaid i adroddiad yr arolygydd—

(a)

cynnwys gwybodaeth am y gweithredwr, unrhyw fangre berthnasol, unrhyw gofnodion perthnasol, cyflwr unrhyw anifeiliaid, ac unrhyw faterion perthnasol eraill, a

(b)

datgan pa un a yw’r arolygydd yn ystyried y caiff amodau’r drwydded eu bodloni ai peidio.

Personau na chaniateir iddynt wneud cais am drwydded10.

(1)

Ni chaniateir i’r personau a ganlyn wneud cais am drwydded mewn cysylltiad ag unrhyw weithgaredd trwyddedadwy—

(a)

person a restrir yn berson anghymwys ym mharagraffau 2 i 8 o Atodlen 4 pan fo’r terfyn amser ar gyfer unrhyw apêl yn erbyn yr anghymwyso hwnnw wedi dod i ben neu, os cyflwynwyd apêl, pan fo’r apêl honno wedi ei gwrthod;

(b)

person a restrir ym mharagraff 1 o Atodlen 4 yn berson a oedd yn ddeiliad trwydded a ddirymwyd pan fo’r terfyn amser ar gyfer unrhyw apêl yn erbyn y dirymu hwnnw wedi dod i ben neu, os cyflwynwyd apêl, pan fo’r apêl honno wedi ei gwrthod.

(2)

Mae unrhyw drwydded a roddir neu a adnewyddir, neu a ddelir, gan berson a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) neu (b) wedi ei dirymu yn awtomatig.

Marwolaeth deiliad trwydded11.

(1)

Os bydd deiliad trwydded yn marw, bernir bod y drwydded wedi ei rhoi i gynrychiolwyr personol y deiliad trwydded blaenorol hwnnw, neu wedi ei hadnewyddu mewn cysylltiad â chynrychiolwyr personol y deiliad trwydded blaenorol hwnnw.

(2)

O dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (1), mae’r drwydded i barhau mewn grym am 3 mis gan ddechrau â dyddiad marwolaeth deiliad blaenorol y drwydded neu am ba hyd bynnag yr oedd i barhau mewn grym oni bai am y farwolaeth (pa gyfnod bynnag yw’r byrraf) ond mae’n parhau i fod yn ddarostyngedig i’r darpariaethau yn Rhan 2.

(3)

Rhaid i’r cynrychiolwyr personol hysbysu yn ysgrifenedig yr awdurdod lleol a roddodd neu a adnewyddodd y drwydded mai hwy yw deiliaid y drwydded bellach o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad marwolaeth deiliad blaenorol y drwydded.

(4)

Os yw’r cynrychiolwyr personol yn methu â hysbysu’r awdurdod lleol yn unol â hynny o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3), bydd y drwydded yn peidio â chael effaith pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben.

(5)

Caiff yr awdurdod lleol a roddodd neu a adnewyddodd y drwydded, ar gais y cynrychiolwyr personol, estyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (2) am hyd at 3 mis os yw wedi ei fodloni bod angen yr estyniad at ddiben dirwyn i ben ystad deiliad blaenorol y drwydded a bod hynny’n briodol o dan yr holl amgylchiadau.

Ffioedd12.

(1)

Caiff awdurdod lleol godi’r ffioedd hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol am—

(a)

ystyried cais i roi, adnewyddu neu amrywio trwydded gan gynnwys unrhyw arolygiad sy’n ymwneud â’r ystyried hwnnw, ac ar gyfer rhoi, adnewyddu neu amrywio trwydded,

(b)

costau disgwyliedig rhesymol ystyried cydymffurfedd deiliad y drwydded â’r Rheoliadau hyn ac amodau’r drwydded y mae deiliad y drwydded yn ddarostyngedig iddynt o dan amgylchiadau ac eithrio’r rhai a ddisgrifir yn is-baragraff (a) gan gynnwys unrhyw arolygiad sy’n ymwneud â’r ystyried hwnnw,

(c)

costau disgwyliedig rhesymol gorfodi mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd trwyddedadwy gan weithredwr didrwydded, a

(d)

costau disgwyliedig rhesymol cydymffurfio â rheoliad 26.

(2)

Ni chaniateir i’r ffi a godir am ystyried cais i roi, adnewyddu neu amrywio trwydded ac ar gyfer unrhyw arolygiad sy’n ymwneud â’r ystyried hwnnw fod yn fwy na chostau rhesymol yr ystyried hwnnw a’r arolygiad cysylltiedig.

Canllawiau13.

Rhaid i awdurdod lleol, wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.