2021 Rhif 416 (Cy. 135)
Anifeiliaid, Cymru
Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol o ran Cymru1, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 13(2), (7), (8) a (10) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 20062, a Rhannau 1 a 3 o Atodlen 1 iddi.
Yn unol ag adran 13(9) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny yr ymddengys iddynt hwy eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy fel yr oeddent yn ystyried ei bod yn briodol.
Yn unol ag adran 61(2) o’r Ddeddf honno3, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.