xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r diwygiadau yn darparu bod Cymru gyfan yn ardal Lefel Rhybudd 3 o ddechrau’r diwrnod ar 27 Mawrth 2021. Mae hyn yn golygu nad yw’r gofynion blaenorol i aros gartref, neu’n fwy diweddar, i aros yn lleol, yn gymwys mwyach; er bod cyfyngiadau ar deithio i Gymru neu o Gymru yn parhau.

Er gwaethaf symud yn ffurfiol i Lefel Rhybudd 3, mae’r diwygiadau yn darparu, am gyfnod cyfyngedig (ar hyn o bryd, tan ddiwedd y diwrnod ar 11 Ebrill 2021), mai’r cyfyngiadau a’r gofynion sy’n gymwys yng Nghymru yw’r rheini a nodir yn Atodlen 3A i’r prif Reoliadau, yn hytrach na’r rheini yn Atodlen 3 (a fyddai fel arall wedi bod yn gymwys i ardal Lefel Rhybudd 3). Y Rheoliadau hyn sy’n mewnosod Atodlen 3A yn y prif Reoliadau.

Mae’r cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 dros dro o dan Atodlen 3A yn wahanol mewn nifer o ffyrdd i’r rheini yn Atodlen 3. Y prif wahaniaethau, o dan y cyfyngiadau dros dro yn Atodlen 3A, yw—

(a)caiff hyd at 6 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed na gofalwyr) o ddim mwy na 2 aelwyd ymgynnull yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, at unrhyw ddiben, ni waeth pa un a yw’r bobl sy’n ymgynnull yn aelodau o’r un aelwyd estynedig ai peidio;

(b)dim ond yr aelwydydd hynny a gâi ffurfio aelwydydd estynedig o dan y cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 a oedd yn gymwys yng Nghymru yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym a gaiff ffurfio aelwydydd estynedig o dan Atodlen 3A (h.y. aelwyd anghenion llesiant, gan gynnwys aelwyd lle y mae un person o dan 18 oed yn byw ar ei ben ei hun, ac aelwyd arall);

(c)dim ond mewn perthynas â gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored er datblygiad neu lesiant plant (er enghraifft, mewn clybiau a ddarperir ar gyfer plant yn ystod gwyliau’r ysgol) y caniateir ymgynnull yn yr awyr agored mewn grwpiau o fwy na 6 o bobl (ac â phersonau o fwy na 2 aelwyd) ar gyfer gweithgaredd wedi ei drefnu;

(d)ni chaiff unrhyw berson sy’n byw y tu allan i Gymru ddod i Gymru neu aros yng Nghymru heb esgus rhesymol (ni waeth ble yn union y tu allan i Gymru y mae person yn byw), ac ni chaiff unrhyw berson sy’n byw yng Nghymru ymadael â Chymru heb esgus rhesymol;

(e)rhaid i bron bob un o’r mangreoedd yr oedd yn ofynnol iddynt fod ar gau i’r cyhoedd yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym aros ar gau. Yr eithriadau yw—

(i)llyfrgelloedd a gwasanaethau archifau;

(ii)ardaloedd cyhoeddus yn yr awyr agored mewn mangre lle y mae heneb gofrestredig, ac ardaloedd cyhoeddus yn yr awyr agored mewn parc neu ardd sydd wedi ei gofrestru neu ei chofrestru yn y gofrestr o barciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru;

(iii)llety gwyliau neu lety teithio hunangynhwysol: mae hyn yn golygu y caiff safleoedd gwersylla a safleoedd gwyliau agor os pwyntiau dŵr a phwyntiau gwaredu gwastraff yw’r unig gyfleusterau a rennir, a chaiff llety arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau a gwestai) agor ar yr amod nad yw gwesteion yn rhannu cyfleusterau nac ardaloedd cymunedol o dan do gydag unrhyw un y tu allan i’w haelwyd na’r ffurf gyfyngedig ar aelwyd estynedig a ddisgrifir ym mharagraff (b).

Mae’r Rheoliadau hefyd yn—

(f)diwygio Atodlen 5 i’r prif Reoliadau er mwyn gwneud addasiadau dros dro i alluogi gorfodi’r cyfyngiadau yn Atodlen 3A;

(g)yn gwneud mân ddiwygiadau eraill a diwygiadau canlyniadol, gan gynnwys i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.