2021 Rhif 406 (Cy. 132)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 70(4), 74, 75, 76(3), 77, 91(6) a 92(2) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 20181, a chan adran 207(4) o Ddeddf Cydraddoldeb 20102 a pharagraffau 6(1), (2) i (5) a (7) a 6A o Atodlen 17 iddi.
Yn unol ag adran 98(3) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ac adran 209(6) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru3, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.