53.—(1) Caiff parti wneud cais i Ysgrifennydd y Tribiwnlys i benderfyniad y Llywydd neu’r panel tribiwnlys gael ei adolygu ar y seiliau—
(a)bod y penderfyniad wedi ei wneud yn anghywir o ganlyniad i wall perthnasol ar ran gweinyddiaeth y Tribiwnlys,
(b)bod gan barti a oedd â hawlogaeth i gael ei glywed yn y gwrandawiad, ond a fethodd ag ymddangos neu gael ei gynrychioli, reswm da a digonol dros beidio ag ymddangos,
(c)bod gwall amlwg a pherthnasol yn y penderfyniad, neu
(d)bod buddiannau cyfiawnder yn gwneud hynny’n ofynnol.
(2) Rhaid i gais am adolygu penderfyniad y Llywydd neu’r panel tribiwnlys gael ei wneud—
(a)yn ysgrifenedig, gan ddatgan y seiliau, a
(b)heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad at y partïon.
(3) Caiff y Llywydd—
(a)ar gais parti neu ar ysgogiad y Llywydd ei hun, adolygu a gosod o’r neilltu neu amrywio unrhyw benderfyniad a wneir gan y Llywydd, ar un o’r seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), neu
(b)gwrthod cais am adolygiad o benderfyniad y Llywydd yn unol â pharagraff (6).
(4) Caiff y Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos—
(a)ar gais parti, neu ar ysgogiad y Llywydd neu’r Cadeirydd ei hun, adolygu a gosod o’r neilltu neu amrywio unrhyw benderfyniad a wneir gan y panel tribiwnlys ar un o’r seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), neu
(b)gwrthod cais am adolygiad o benderfyniad y panel tribiwnlys yn unol â pharagraff (6).
(5) Caiff Cadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos orchymyn cynnal ail wrandawiad, gerbron yr un panel tribiwnlys neu gerbron panel tribiwnlys sydd wedi ei gyfansoddi’n wahanol.
(6) Caiff Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos wrthod y cais am adolygiad yn gyfan gwbl neu’n rhannol os, ym marn y Llywydd neu’r Cadeirydd, nad oes siawns resymol i’r cais cyfan hwnnw neu’r rhan honno lwyddo.
(7) Oni wrthodir cais am adolygiad yn unol â pharagraff (6), rhaid i’r adolygiad gael ei benderfynu ar ôl rhoi cyfle i’r partïon i gael eu clywed—
(a)gan y Llywydd, pan wnaed y penderfyniad gan y Llywydd, neu
(b)pan wnaed y penderfyniad gan banel tribiwnlys, gan y Llywydd neu’r panel tribiwnlys a wnaeth y penderfyniad neu gan banel tribiwnlys arall a benodir gan y Llywydd.
(8) Os yw Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos, ar ysgogiad y Llywydd neu’r Cadeirydd ei hun, yn cynnig y dylid adolygu penderfyniad—
(a)rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gyflwyno hysbysiad i’r partïon heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad at y partïon, a
(b)rhaid rhoi cyfle i’r partïon i gael eu clywed.
(9) Wrth benderfynu cais neu gynnig ar gyfer adolygiad o dan baragraff (3), (4) neu (7), caiff y Llywydd neu’r Cadeirydd roi cyfarwyddydau y mae rhaid cydymffurfio â hwy cyn neu yn ystod y gwrandawiad o’r adolygiad.
(10) Os yw parti yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a wneir o dan baragraff (9), caiff y panel tribiwnlys ystyried y ffaith honno wrth benderfynu’r adolygiad neu wrth benderfynu pa un ai i wneud gorchymyn ar gyfer costau.
(11) Caiff y Llywydd neu’r Cadeirydd, ar gais parti, roi caniatâd i’r parti hwnnw newid tyst at ddiben y gwrandawiad adolygu.
(12) Rhaid i gais a wneir o dan baragraff (11) ddod i law Ysgrifennydd y Tribiwnlys, a rhaid i’r ceisydd gyflwyno’r cais i’r parti arall, heb fod yn hwyrach na 14 o ddiwrnodau cyn y gwrandawiad adolygu.
(13) Rhaid i’r Llywydd neu’r Cadeirydd roi cyfle i’r partïon i gael eu clywed ynghylch unrhyw gais a wneir o dan baragraff (11).
(14) Os gosodir penderfyniad o’r neilltu neu os amrywir penderfyniad yn dilyn adolygiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys newid y cofnod yn y Gofrestr a rhaid iddo hysbysu’r partïon yn unol â hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 53 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
54.—(1) Caniateir i benderfyniad gan y Llywydd i beidio ag estyn yr amser a ganiateir o dan reoliad 14 ar gyfer cyflwyno cais apelio gael ei adolygu o dan reoliad 53 ar gais person fel pe bai’r person hwnnw yn barti yn yr apêl.
(2) Pan fo’r Llywydd yn penderfynu peidio ag ystyried hawliad sydd y tu allan i’r amser, o dan baragraff 4(3) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010, caniateir adolygu’r penderfyniad hwnnw o dan reoliad 53 ar gais person fel pe bai’r person hwnnw yn barti yn yr hawliad.
(3) Os gwneir cais am adolygiad o dan baragraff (1) neu (2), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gyflwyno copi o’r cais i’r awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol ynghyd â hysbysiad sy’n gwahodd sylwadau ysgrifenedig o fewn cyfnod penodedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 54 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
55.—(1) Rhaid i barti sy’n ceisio caniatâd i apelio ar bwynt cyfreithiol o dan adran 81 o Ddeddf 2018 neu baragraff 6AA o Atodlen 17 i Ddeddf 2010 (apelau o Dribiwnlys Addysg Cymru i’r Uwch Dribiwnlys) wneud cais ysgrifenedig i’r Tribiwnlys Addysg am ganiatâd i apelio.
(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) gael ei anfon at Ysgrifennydd y Tribiwnlys heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau ar ôl y diweddaraf o’r dyddiadau yr anfonodd Ysgrifennydd y Tribiwnlys at y parti sy’n gwneud y cais—
(a)hysbysiad o’r penderfyniad,
(b)hysbysiad bod cais i’r penderfyniad gael ei adolygu wedi bod yn aflwyddiannus, neu
(c)hysbysiad bod y penderfyniad wedi ei amrywio yn dilyn adolygiad.
(3) Rhaid i gais o dan baragraff (1)—
(a)nodi’r penderfyniad y mae’n ymwneud ag ef,
(b)nodi’r gwall cyfreithiol honedig neu’r gwallau cyfreithiol honedig yn y penderfyniad, ac
(c)datgan y canlyniad a geisir gan y parti sy’n gwneud y cais.
(4) Caiff y Llywydd neu’r Cadeirydd roi cyfarwyddydau mewn perthynas â phenderfynu’r cais, a chaiff wneud ei benderfyniad ar y cais gyda gwrandawiad neu hebddo.
(5) Wrth gael cais am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys rhaid i Lywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos ystyried yn gyntaf, gan gymryd i ystyriaeth y prif amcan yn rheoliad 4, pa un ai i adolygu penderfyniad y Tribiwnlys yn unol â rheoliad 53, oni fydd y Llywydd neu’r Cadeirydd eisoes wedi adolygu’r penderfyniad, neu wedi penderfynu peidio ag adolygu’r penderfyniad.
(6) Os yw’r Llywydd neu’r Cadeirydd yn penderfynu peidio ag adolygu’r penderfyniad, neu’n adolygu’r penderfyniad ac yn penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau gweithredu mewn perthynas â’r penderfyniad, neu ran ohono, rhaid i’r Llywydd neu’r Cadeirydd ystyried wedyn pa un ai i roi caniatâd i apelio mewn perthynas â’r penderfyniad, neu’r rhan honno o’r penderfyniad.
(7) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad y Llywydd neu’r Cadeirydd ar y cais at y partïon cyn gynted ag y bo’n ymarferol gan gynnwys manylion unrhyw benderfyniad i roi caniatâd i apelio a wneir o dan baragraff (6).
(8) Os yw’r Llywydd neu’r Cadeirydd wedi gwrthod y cais rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (7) hefyd gynnwys—
(a)y rhesymau dros wrthodiad o’r fath, a
(b)hysbysiad o’r hawl i wneud cais i’r Uwch Dribiwnlys am ganiatâd i apelio ac o fewn pa gyfnod o amser, a thrwy ba ddull, y mae rhaid gwneud cais o’r fath.
(9) Caiff y Llywydd neu’r Cadeirydd roi caniatâd i apelio ar seiliau cyfyngedig, ond rhaid iddo gydymffurfio â pharagraff (8) mewn perthynas ag unrhyw seiliau y mae wedi gwrthod caniatâd arnynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 55 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
56. Caiff Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos, ar gais, neu ar ysgogiad y Llywydd neu’r Cadeirydd ei hun, wneud gorchymyn i atal dros dro effaith penderfyniad y panel tribiwnlys hyd nes y ceir penderfyniad gan y Llywydd neu’r Cadeirydd neu’r Uwch Dribiwnlys ar gais am ganiatâd i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw ac unrhyw apêl neu adolygiad ohono.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 56 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
57.—(1) Os caiff unrhyw benderfyniad gan y Tribiwnlys ei osod o’r neilltu, ei amrywio neu ei newid mewn unrhyw ffordd drwy orchymyn gan yr Uwch Dribiwnlys neu’r Llys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys newid y cofnod yn y Gofrestr i gyfateb i’r gorchymyn hwnnw, a rhaid iddo hysbysu’r partïon yn unol â hynny.
(2) Os ailgyflwynir yr apêl neu’r hawliad i’r Tribiwnlys, drwy orchymyn gan yr Uwch Dribiwnlys neu’r Llys, i’w hailglywed neu i’w ailglywed, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu’r partïon y caiff pob parti, yn ystod cyfnod o 15 niwrnod gwaith (neu gyfnod byrrach y mae’r partïon yn cytuno arno), gyflwyno datganiad achos atodol a thystiolaeth ysgrifenedig bellach.
(3) Os caiff gorchymyn i ddileu’r cais apelio neu’r cais hawlio ei ddiddymu neu ei osod o’r neilltu gan yr Uwch Dribiwnlys neu’r Llys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu’r partïon—
(a)mewn achos pan nad oedd cyfnod y datganiad achos wedi dod i ben cyn i’r gorchymyn i ddileu gael effaith—
(i)bod cyfnod datganiad achos newydd i ddechrau, a
(ii)y caiff y partïon, o fewn cyfnod y datganiad achos newydd, gyflwyno’r ddogfennaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (b) mewn cysylltiad â datganiad achos neu dystiolaeth a gyflwynwyd cyn i’r dileu gymryd effaith, neu
(b)pan na fo is-baragraff (a) yn gymwys, fod gan bob parti 15 niwrnod gwaith (neu gyfnod byrrach y mae’r partïon yn cytuno arno) i gyflwyno datganiad achos atodol a thystiolaeth ysgrifenedig bellach.
(4) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o’r holl ddatganiadau achos a thystiolaeth ysgrifenedig a geir gan barti yn ystod y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) a (3)(b) at y parti arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 57 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
58.—(1) Os yw’r panel tribiwnlys, yn dilyn ei benderfyniad mewn perthynas ag apêl, yn gwneud gorchymyn o dan adran 71 o Ddeddf 2018 sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu SAB gyflawni’r camau gweithredu y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), rhaid i’r awdurdod lleol neu gorff llywodraethu’r SAB gyflawni’r camau gweithredu o fewn y cyfnod o amser a bennir ym mharagraff (2).
(2) Yn achos gorchymyn—
(a)yn erbyn awdurdod lleol i lunio cynllun datblygu unigol, rhaid iddo lunio’r cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono i’r plentyn, i riant y plentyn neu i’r person ifanc o fewn 7 wythnos;
(b)yn erbyn corff llywodraethu SAB i lunio cynllun datblygu unigol, rhaid iddo lunio’r cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono i’r person ifanc o fewn 35 o ddiwrnodau amser tymor;
(c)yn erbyn awdurdod lleol i ddiwygio cynllun datblygu unigol, rhaid iddo ddiwygio’r cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono i’r plentyn, i riant y plentyn neu i’r person ifanc o fewn 7 wythnos;
(d)yn erbyn corff llywodraethu SAB i ddiwygio cynllun datblygu unigol, rhaid iddo ddiwygio’r cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono i’r person ifanc o fewn 35 o ddiwrnodau amser tymor;
(e)i barhau i gynnal cynllun datblygu unigol (gyda diwygiadau neu hebddynt), gydag effaith ar unwaith;
(f)yn erbyn awdurdod lleol i gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun datblygu unigol, gan ddechrau â’r dyddiad a bennir gan y tribiwnlys;
(g)yn erbyn awdurdod lleol i adolygu cynllun datblygu unigol, rhaid iddo gynnal yr adolygiad a hysbysu’r plentyn, rhiant y plentyn, neu’r person ifanc am ganlyniad yr adolygiad, yn ysgrifenedig, o fewn 7 wythnos;
(h)yn erbyn corff llywodraethu SAB i adolygu cynllun datblygu unigol, rhaid iddo gynnal yr adolygiad a hysbysu’r person ifanc am ganlyniad yr adolygiad, yn ysgrifenedig, o fewn 35 o ddiwrnodau amser tymor;
(i)i anfon yr achos yn ôl i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y mater er mwyn iddo ailystyried, ar ôl rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y tribiwnlys, a oes angen gwneud penderfyniad gwahanol neu gymryd camau gweithredu gwahanol, rhaid i’r awdurdod lleol wneud hynny, a hysbysu’r plentyn, rhiant y plentyn, neu’r person ifanc am ganlyniad yr ailystyriaeth honno o fewn 7 wythnos;
(j)i anfon yr achos yn ôl i gorff llywodraethu’r SAB sy’n gyfrifol am y mater er mwyn iddo ailystyried, ar ôl rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y tribiwnlys, a oes angen gwneud penderfyniad gwahanol neu gymryd camau gweithredu gwahanol, rhaid i gorff llywodraethu’r SAB wneud hynny, a hysbysu’r plentyn, rhiant y plentyn, neu’r person ifanc am ganlyniad yr ailystyriaeth honno o fewn 35 o ddiwrnodau amser tymor.
(3) Os yw’r panel tribiwnlys, yn dilyn ei benderfyniad mewn perthynas ag apêl, yn gwneud gorchymyn o dan adran 73 o Ddeddf 2018 sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cartref gyflawni gweithred y cyfeirir ati ym mharagraff (4), rhaid i’r awdurdod cartref gyflawni’r weithred honno o fewn y cyfnod o amser a bennir ym mharagraff (4).
(4) Yn achos gorchymyn—
(a)i lunio cynllun datblygu unigol, rhaid iddo lunio’r cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono i’r plentyn, i riant y plentyn neu i’r person ifanc o fewn 7 wythnos;
(b)i ddiwygio cynllun datblygu unigol fel a bennir yn y gorchymyn, rhaid iddo ddiwygio’r cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono i’r plentyn, i riant y plentyn neu i’r person ifanc o fewn 7 wythnos;
(c)i anfon yr achos yn ôl i’r awdurdod cartref sy’n gyfrifol am y mater er mwyn iddo ailystyried, ar ôl rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y tribiwnlys, a oes angen gwneud penderfyniad gwahanol neu gymryd camau gweithredu gwahanol, rhaid iddo wneud hynny a hysbysu’r plentyn, rhiant y plentyn, neu’r person ifanc am ganlyniad yr ailystyriaeth honno o fewn 7 wythnos.
(5) Ym mhob achos ym mharagraffau (2) a (4), oni phennir fel arall, mae’r cyfnod yn dechrau â’r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl gwneud y gorchymyn.
(6) Pan fo gorchymyn wedi ei wneud mewn cysylltiad â chorff llywodraethu SAB, ystyr “diwrnod amser tymor” yw diwrnod y mae’r sefydliad addysg bellach i fod i gwrdd at ddiben addysgu myfyrwyr, ar yr amod bod y diwrnod hwnnw o fewn cyfnod o amser pan fo’r sefydliad addysg bellach yn darparu’r rhan fwyaf o’i gyrsiau llawnamser.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 58 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1