5.—(1) Pan fo rheoliad 3 yn gymwys i hawliad o dan baragraff 3A(1)(b) o Atodlen 17 i’r Ddeddf, mae’r cyfeiriadau at “parent” yn adran 86(2), (3) a (4) o’r Ddeddf i’w darllen fel cyfeiriadau at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw.
(2) Pan fo rheoliad 4 yn gymwys i hawliad o dan baragraff 3A(1)(a) o Atodlen 17 i’r Ddeddf mewn cysylltiad â phlentyn sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol, mae’r cyfeiriadau at “parent” yn adran 86(2), (3) a (4) o’r Ddeddf i’w darllen fel cyfeiriadau at gynrychiolydd i’r plentyn hwnnw.
(3) Pan fo rheoliad 4 yn gymwys i hawliad o dan baragraff 3A(1)(a) o Atodlen 17 i’r Ddeddf mewn cysylltiad ag oedolyn, mae’r cyfeiriadau yn adran 86(2), (3) a (4) o’r Ddeddf at—
(a)“parent or sibling” i’w darllen fel cyfeiriadau at gynrychiolydd i’r oedolyn hwnnw, a
(b)“child” i’w darllen fel cyfeiriadau at yr oedolyn hwnnw.