ATODLEN 1ANGHENION RHESYMOL AM ADDYSG NEU HYFFORDDIANT
Estyn rhaglen astudio
4.
(1)
Nid yw’r person ifanc wedi gallu cwblhau rhaglen astudio (gan gynnwys pan fo’n rhaglen astudio ychwanegol o dan baragraff 5(1)) o fewn cyfnod para’r rhaglen fel y’i bwriadwyd ar y dechrau a bwriedir estyn y rhaglen i alluogi’r person ifanc i gyflawni deilliannau dymunol y person ar ddechrau’r rhaglen (“deilliannau gwreiddiol”) neu rai sy’n sylweddol debyg i’r deilliannau gwreiddiol (“deilliannau addasedig”).
(2)
Y ffactorau, pan fônt yn berthnasol, y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried yw—
(a)
a oes modd osgoi’r amgylchiadau sy’n arwain at yr estyniad arfaethedig;
(b)
a yw’r estyniad arfaethedig yn angenrheidiol i alluogi’r person ifanc i gwblhau’r rhaglen astudio a chyflawni’r deilliannau gwreiddiol neu’r deilliannau addasedig;
(c)
a yw’r estyniad arfaethedig at ddiben y dylid bod wedi ymdrin ag ef yn ystod cyfnod para gwreiddiol y rhaglen astudio a phan fo hynny’n wir, y rhesymau pam nad ymdriniwyd ag ef;
(d)
a yw’r estyniad arfaethedig yn gymesur â’r deilliannau gwreiddiol nad ydynt wedi eu cyflawni eto neu’r canlyniadau addasedig ac a oes angen hyd gwahanol o estyniad o dan yr amgylchiadau;
(e)
pan fo’r rhaglen astudio wedi ei hestyn yn flaenorol—
(i)
a yw’r estyniad arfaethedig yn codi o’r un ffeithiau â’r un blaenorol, a
(ii)
a oes rhesymau eithriadol pam nad oedd y person ifanc yn gallu cyflawni’r deilliannau yn ystod yr estyniad blaenorol.