RHAN 2LL+CCYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Penderfyniadau awdurdodau lleol ar yr angen am gynlluniau datblygu unigol ar gyfer pobl ifancLL+C

Achosion eraill: anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant a’r angen am gynllun datblygu unigolLL+C

9.—(1Mae gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant pan na fo’r rhaglen astudio addas y bwriedir i’r person ifanc ei dilyn, neu barhau i’w dilyn, ynghyd ag unrhyw addysg bellach neu hyfforddiant arall a ddilynir gan y person ifanc, yn para am fwy na 2 flynedd.

(2Caiff yr awdurdod lleol benderfynu bod gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1) a 6(1) o Atodlen 1 yn gymwys.

(3At ddibenion penderfynu a oes gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant o dan baragraff (2), mae paragraffau 3(2), 4(2), 5(2) a 6(2) o Atodlen 1 yn nodi’r priod ffactorau y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried ar gyfer pob un o’r amgylchiadau sy’n gymwys.

(4At ddibenion adran 31(6)(b) o Ddeddf 2018, mae gan berson ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant pan fo’r person ifanc yn dilyn rhaglen astudio addas yn unol â phenderfyniad o dan baragraff (2).

(5Pan fo gan y person ifanc anghenion rhesymol, neu pan fo awdurdod lleol yn penderfynu bod gan y person ifanc anghenion rhesymol, am addysg neu hyfforddiant o dan y rheoliad hwn—

(a)at ddibenion adran 14(1)(c)(ii) o Ddeddf 2018, mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc os byddai’r awdurdod lleol, pe bai’n llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc, o dan y ddyletswydd yn adran 14(6) o’r Ddeddf honno i bennu yn y cynllun ddarpariaeth o’r math a restrir yn adran 14(7)(a) o’r Ddeddf honno;

(b)at ddibenion adran 31(6)(b) o’r Ddeddf honno, mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol barhau i gynnal cynllun datblygu unigol y person ifanc os yw’r awdurdod lleol o dan y ddyletswydd yn adran 14(6) o’r Ddeddf honno i bennu yn y cynllun ddarpariaeth o’r math a restrir yn adran 14(7)(a) o’r Ddeddf honno.

(6Fel arall nid yw’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc.