35.—(1) Pan nad oes gan riant plentyn alluedd ar yr adeg berthnasol, mae cyfeiriadau yn narpariaethau Deddf 2018 a restrir isod at riant plentyn i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw—
(a)adran 11(4);
(b)adran 13(3);
(c)adran 18(3);
(d)adran 20(3)(a) a (b);
(e)adran 22(1)(b) a (2)(b);
(f)adran 23(8), (10) ac (11);
(g)adran 24(7), (9) a (10);
(h)adran 26(1)(b);
(i)adran 27(1)(b) a (4);
(j)adran 28(2)(b), (4), (5) a (7);
(k)adran 31(7)(b), (8) a (9);
(l)adran 32(1)(a) a (b) a (3);
(m)adran 64(3) a (4).
(2) Pan nad oes gan riant plentyn alluedd ar yr adeg berthnasol, mae cyfeiriadau at rieni plant, a rhieni disgyblion yn adran 9(3)(b) a (4)(a) o Ddeddf 2018 yn y drefn honno i’w darllen fel pe baent yn cynnwys y rhieni a chynrychiolydd i’r rhieni.
(3) Pan nad oes gan riant plentyn alluedd ar yr adeg berthnasol, mae’r cyfeiriad yn rheoliad 22(5)(b) at riant y plentyn i’w ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 35 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)