Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021

Dehongli cyffredinol

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2018” yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

(2Mae i gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at berson sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (sut bynnag y’i mynegir) yr ystyr a roddir i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996(1).

(3Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf 2018 ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

(4Pan fo’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cyfnod y mae’n ofynnol gwneud rhywbeth ynddo, neu cyn ei ddiwedd, ac na fo diwrnod olaf y cyfnod hwnnw yn ddiwrnod gwaith, mae’r cyfnod yn cael ei estyn i gynnwys y diwrnod gwaith canlynol.

(1)

1996 p. 56. Mae’r is-adrannau hyn wedi eu diwygio gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4), Atodlen 4, Rhan 1, paragraff 47, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 49 ac O.S. 2016/413 (Cy. 131), rheoliadau 153 a 157.