xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CCYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Categorïau o blant sy’n derbyn gofal a ragnodir o dan adran 15 o Ddeddf 2018LL+C

5.  Nid yw plentyn i’w drin fel pe bai’n derbyn gofal at ddibenion Deddf 2018 os nad yw’n ofynnol, gan neu o dan adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1) (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya), i gynllun addysg personol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 83(2A) o’r Ddeddf honno) gael ei gynnwys fel rhan o gynllun gofal a chymorth y plentyn o dan yr adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 5 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Penderfyniadau awdurdodau lleol ar yr angen am gynlluniau datblygu unigol ar gyfer pobl ifancLL+C

Dehongli rheoliadau 6 i 9 ac Atodlen 1LL+C

6.—(1Yn y rheoliad hwn, rheoliadau 7 i 9 ac Atodlen 1—

ystyr “addysg bellach neu hyfforddiant” (“further education or training”) yw addysg neu hyfforddiant sy’n addas i ofynion personau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol a gweithgaredd amser hamdden wedi ei drefnu sy’n gysylltiedig ag addysg neu hyfforddiant o’r fath, ond nid yw’n cynnwys unrhyw addysg neu hyfforddiant a geir gan berson ifanc tra bo’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (gweler rheoliad 2(2) ar gyfer pa bryd y mae person yn ddarostyngedig i orchymyn cadw);

ystyr “deilliannau” (“outcomes”) yw deilliannau sy’n gysylltiedig â pharatoi ar gyfer gwaith, symud ymlaen i addysg arall, gan gynnwys addysg uwch, neu gyfleoedd hyfforddi neu ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol neu sgiliau neu nodweddion defnyddiol eraill ar gyfer bod yn oedolyn;

ystyr “rhaglen astudio” (“programme of study”) yw un neu ragor o gyrsiau o addysg bellach neu hyfforddiant, pa un a yw’n arwain at gymhwyster ai peidio ac yn achos mwy nag un cwrs, pa un a yw’r cyrsiau yn cael eu dilyn yn gydredol neu’n olynol ai peidio (ond os ydynt yn cael eu dilyn yn olynol rhaid iddynt fod yn rhan o raglen astudio gyffredinol).

(2Wrth benderfynu ar gyfnod para rhaglen astudio at ddibenion rheoliad 9 ac Atodlen 1—

(a)mae rhaglen astudio yn cael ei thrin fel pe bai’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person ifanc yn cychwyn, neu y disgwylir iddo gychwyn, ar y rhaglen astudio ac yn dod i ben â’r diwrnod y disgwylir i’r person ei chwblhau, a

(b)os yw’r rhaglen, neu ran ohoni, yn para am o leiaf 38 o wythnosau mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn, mae’r rhaglen, neu’r rhan honno ohoni, yn cael ei thrin fel pe bai’n cael ei chynnal dros flwyddyn.

(3Wrth benderfynu ar gyfnod para addysg bellach neu hyfforddiant arall a ddilynir gan berson ifanc at ddibenion rheoliad 9 ac Atodlen 1—

(a)mae’r addysg bellach neu’r hyfforddiant yn cael ei thrin neu ei drin fel pe bai wedi dechrau â diwrnod cyntaf y mis y cychwynnodd y person ifanc arni neu arno ac yn dod i ben â diwrnod olaf y mis—

(i)y cwblhaodd y person ifanc yr addysg bellach neu’r hyfforddiant neu y peidiodd fel arall â chael yr addysg bellach neu’r hyfforddiant, neu

(ii)y disgwylir i’r person ifanc gwblhau’r addysg bellach neu’r hyfforddiant neu y disgwylir fel arall iddo beidio â chael yr addysg bellach neu’r hyfforddiant;

(b)os yw’r addysg bellach neu’r hyfforddiant, neu ran ohoni neu ohono, yn para am o leiaf 38 o wythnosau mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn, mae’n cael ei thrin neu ei drin, neu mae’r rhan honno ohoni neu ohono yn cael ei thrin, fel pe bai’n cael ei chynnal neu ei gynnal dros flwyddyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 6 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Rhaglen astudio bosiblLL+C

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i benderfyniad awdurdod lleol o dan adran 14(1)(c)(ii) neu 31(6)(b) o Ddeddf 2018 o ran a yw cynllun datblygu unigol yn angenrheidiol ar gyfer person ifanc nad yw’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru nac wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)nodi deilliannau dymunol y person ifanc, os oes rhai, a

(b)ystyried pa raglenni astudio a all fod ar gael ac a fyddai’n addas i alluogi’r person ifanc i gyflawni’r deilliannau dymunol hynny.

(3Wrth ystyried y mater ym mharagraff (2)(b)—

(a)yn gyntaf rhaid i’r awdurdod lleol ystyried rhaglenni astudio mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau yn y sector addysg bellach;

(b)ni chaiff yr awdurdod lleol ystyried rhaglenni astudio mewn sefydliadau ac eithrio’r rheini a grybwyllir ym mharagraff (7) ond pan fo’n ymddangos yn debygol na ellir diwallu anghenion rhesymol y person ifanc am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol i ddilyn rhaglen astudio addas oni bai bod yr awdurdod lleol yn sicrhau ar gyfer y person ifanc—

(i)lle mewn sefydliad ac eithrio un a grybwyllir ym mharagraff (7), neu

(ii)bwyd a llety.

(4Wrth benderfynu a yw rhaglen astudio a ddarperir gan sefydliad ac eithrio un a grybwyllir ym mharagraff (7) yn addas ar gyfer person ifanc, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried, yn unol â pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 1, a oes posibilrwydd realistig y byddai’r person ifanc yn cyflawni deilliannau dymunol y person drwy ddilyn y rhaglen astudio neu drwy barhau i ddilyn y rhaglen astudio (gydag unrhyw addasiadau arfaethedig).

(5Pan fo’r person ifanc eisoes yn dilyn rhaglen astudio, nid yw paragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ystyried rhaglenni astudio eraill os yw wedi ei fodloni bod y rhaglen y mae’r person ifanc yn ei dilyn yn parhau i fod yn addas, neu y byddai’n addas gydag addasiadau, i alluogi’r person ifanc i gyflawni deilliannau dymunol y person.

(6Nid oes angen i’r awdurdod lleol gydymffurfio â pharagraff (2) neu unrhyw ran ohono, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni na fyddai cydymffurfio ag ef, neu â’r rhan honno ohono, yn effeithio ar ei benderfyniad o dan adran 14(1)(c)(ii) neu 31(6)(b) o Ddeddf 2018.

(7Mae rheoliad 8 yn gymwys pan fo’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn unrhyw un o’r sefydliadau a ganlyn, neu pan fo’r person ifanc i fod yn ddisgybl neu’n fyfyriwr o’r fath, i ddilyn rhaglen astudio, neu i barhau i ddilyn rhaglen astudio, i gyflawni deilliannau dymunol y person ifanc—

(a)ysgol a gynhelir yng Nghymru neu Loegr;

(b)sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu Loegr;

(c)Academi.

(8Mae rheoliad 9 yn gymwys i bob achos arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 7 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Yr angen am gynllun: rhaglenni astudio mewn ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru a sefydliadau penodol yn LloegrLL+C

8.—(1Mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc os byddai’r awdurdod lleol, neu os yw’r awdurdod lleol, wrth lunio neu gynnal y cynllun ar gyfer y person ifanc, o dan y ddyletswydd yn adran 14(6) o Ddeddf 2018 i ddisgrifio darpariaeth o fath a restrir yn adran 14(7) o’r Ddeddf honno.

(2Mae hefyd yn angenrheidiol i awdurdod lleol barhau i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc os yw’r person ifanc i gofrestru’n ddisgybl mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru i ddilyn rhaglen astudio.

(3Ar gyfer achosion nad ydynt yn dod o fewn paragraff (1) neu (2), rhaid i’r awdurdod lleol ystyried—

(a)yn achos person ifanc sydd i gofrestru’n ddisgybl mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, a yw’n rhesymol i gorff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol;

(b)yn achos person ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn ysgol a gynhelir yn Lloegr, Academi neu sefydliad yn y sector addysg bellach yn Lloegr, neu sydd i fod yn ddisgybl neu’n fyfyriwr o’r fath, a fyddai corff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad neu, yn achos Academi, y perchennog, yn sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

(4Wrth ystyried mater y cyfeirir ato ym mharagraff (3), rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r corff llywodraethu neu’r perchennog.

(5Mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc—

(a)os yw’r awdurdod lleol, yn yr achos y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a), yn ystyried nad yw’n rhesymol i gorff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol;

(b)os nad yw’r awdurdod lleol, yn yr achos y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b), wedi ei fodloni y byddai’r corff llywodraethu neu’r perchennog yn sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

(6Fel arall nid yw’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc.

(7Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn gyfeiriadau at y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y gelwir amdani gan anghenion dysgu ychwanegol y person ifanc er mwyn dilyn y rhaglen astudio neu barhau i ddilyn y rhaglen astudio.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 8 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Achosion eraill: anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant a’r angen am gynllun datblygu unigolLL+C

9.—(1Mae gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant pan na fo’r rhaglen astudio addas y bwriedir i’r person ifanc ei dilyn, neu barhau i’w dilyn, ynghyd ag unrhyw addysg bellach neu hyfforddiant arall a ddilynir gan y person ifanc, yn para am fwy na 2 flynedd.

(2Caiff yr awdurdod lleol benderfynu bod gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1) a 6(1) o Atodlen 1 yn gymwys.

(3At ddibenion penderfynu a oes gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant o dan baragraff (2), mae paragraffau 3(2), 4(2), 5(2) a 6(2) o Atodlen 1 yn nodi’r priod ffactorau y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried ar gyfer pob un o’r amgylchiadau sy’n gymwys.

(4At ddibenion adran 31(6)(b) o Ddeddf 2018, mae gan berson ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant pan fo’r person ifanc yn dilyn rhaglen astudio addas yn unol â phenderfyniad o dan baragraff (2).

(5Pan fo gan y person ifanc anghenion rhesymol, neu pan fo awdurdod lleol yn penderfynu bod gan y person ifanc anghenion rhesymol, am addysg neu hyfforddiant o dan y rheoliad hwn—

(a)at ddibenion adran 14(1)(c)(ii) o Ddeddf 2018, mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc os byddai’r awdurdod lleol, pe bai’n llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc, o dan y ddyletswydd yn adran 14(6) o’r Ddeddf honno i bennu yn y cynllun ddarpariaeth o’r math a restrir yn adran 14(7)(a) o’r Ddeddf honno;

(b)at ddibenion adran 31(6)(b) o’r Ddeddf honno, mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol barhau i gynnal cynllun datblygu unigol y person ifanc os yw’r awdurdod lleol o dan y ddyletswydd yn adran 14(6) o’r Ddeddf honno i bennu yn y cynllun ddarpariaeth o’r math a restrir yn adran 14(7)(a) o’r Ddeddf honno.

(6Fel arall nid yw’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 9 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Hysbysiad o benderfyniad o dan adran 14(1)(c)(ii) o Ddeddf 2018 nad oes angen cynllunLL+C

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn penderfynu o dan adran 14(1)(c)(ii) o Ddeddf 2018 nad oes angen llunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r person ifanc am—

(a)y penderfyniad, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(3Rhaid i’r awdurdod lleol wneud y penderfyniad a rhoi’r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (2), yn brydlon ac mewn unrhyw achos cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y cydsyniodd y person ifanc i’r penderfyniad o dan adran 13(1) o Ddeddf 2018 gael ei wneud.

(4Nid oes angen i’r awdurdod lleol gydymffurfio â’r gofyniad i wneud y penderfyniad a rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth.

(5Wrth roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2), rhaid i’r awdurdod lleol hefyd roi i’r person ifanc—

(a)manylion cyswllt ar gyfer yr awdurdod lleol;

(b)gwybodaeth am sut i gael mynediad at drefniadau’r awdurdod lleol o dan adran 9 o Ddeddf 2018 ar gyfer darparu i bobl wybodaeth a chyngor ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a’r system y gwneir darpariaeth ar ei chyfer gan Ran 2 o’r Ddeddf honno;

(c)manylion ynghylch trefniadau’r awdurdod lleol ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau o dan adran 68 o Ddeddf 2018;

(d)manylion ynghylch trefniadau’r awdurdod lleol ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 69 o Ddeddf 2018;

(e)gwybodaeth am yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys Addysg o dan adran 70 o Ddeddf 2018 yn erbyn y penderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 10 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Terfynau amser ar gyfer atgyfeiriadau adran 20 a gofyn bod y penderfyniad i beidio â chynnal cynlluniau yn cael ei ailystyriedLL+C

Terfyn amser i gorff GIG ymateb i atgyfeiriad adran 20LL+C

11.—(1Rhaid i gorff GIG sydd o dan ddyletswydd i roi gwybod o dan adran 21(1) neu (2) o Ddeddf 2018 (cynlluniau datblygu unigol: Byrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG) gydymffurfio â’r ddyletswydd honno yn brydlon ac mewn unrhyw achos o fewn y cyfnod a ragnodir gan baragraff (2).

(2Mae’r cyfnod rhagnodedig—

(a)yn dechrau â’r diwrnod y mae’r corff GIG yn cael yr atgyfeiriad o dan adran 20 o Ddeddf 2018, a

(b)yn dod i ben ar ddiwedd 6 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).

(3Nid oes angen i’r corff GIG gydymffurfio â’r ddyletswydd i roi gwybod o dan adran 21(1) neu (2) o fewn y cyfnod a ragnodir gan baragraff (2) os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 11 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Terfyn amser ar gyfer gofyn i benderfyniad i beidio â chynnal cynllun gael ei ailystyriedLL+C

12.—(1Mae’r cyfnod a ragnodir at ddibenion adran 32(1)(b) o Ddeddf 2018 (ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o benderfyniadau cyrff llywodraethu o dan adran 31)—

(a)yn dechrau â’r diwrnod y mae’r corff llywodraethu yn rhoi’r hysbysiadau o dan adran 31(8) a (9) o’r Ddeddf honno, a

(b)yn dod i ben ar ddiwedd 4 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).

(2Pan fo’r hysbysiadau o dan adran 31(8) a (9) yn cael eu rhoi ar ddiwrnodau gwahanol (pa un ai oherwydd eu bod yn cael eu rhoi i bersonau gwahanol ar ddiwrnodau gwahanol neu eu rhoi o dan bob is-adran ar ddiwrnodau gwahanol), mae’r cyfeiriad ym mharagraff (1)(a) at y diwrnod y mae’r corff llywodraethu yn rhoi’r hysbysiadau yn gyfeiriad at yr hwyrach o’r diwrnodau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 12 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Trosglwyddo cyfrifoldeb am gynlluniau datblygu unigolLL+C

Cais awdurdod lleol i drosglwyddo cynllun i gorff llywodraethu sefydliad addysg bellachLL+C

13.—(1Rhaid i gais gan awdurdod lleol o dan adran 36(2) o Ddeddf 2018 fod corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yn dod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig, a

(b)dod gyda chopi o’r cynllun, oni bai bod gan y corff llywodraethu gopi ohono eisoes.

(2Mae’r cyfnod a ragnodir at ddibenion adran 36(3) o Ddeddf 2018 (y cyfnod y caiff awdurdod lleol atgyfeirio mater at Weinidogion Cymru ar ei ôl)—

(a)yn dechrau â’r diwrnod y mae’r corff llywodraethu yn cael y cais o dan adran 36(2), a

(b)yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod o 20 niwrnod amser tymor sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).

(3Pan fo corff llywodraethu yn cytuno i gais awdurdod lleol o dan adran 36(2)—

(a)rhaid iddo roi gwybod i’r awdurdod lleol yn ysgrifenedig am ei gytundeb, a

(b)mae’n dod yn gyfrifol am y cynllun o dan adran 12(4) o Ddeddf 2018—

(i)ar y diwrnod y cytunir arno rhwng y corff llywodraethu a’r awdurdod i’r cyfrifoldeb gael ei drosglwyddo;

(ii)fel arall ar y diwrnod y mae’r awdurdod yn cael cytundeb ysgrifenedig y corff llywodraethu i’r cais.

(4Ym mharagraff (2), ystyr “diwrnod amser tymor” mewn perthynas â sefydliad yn y sector addysg bellach yw diwrnod y mae’r sefydliad i fod i gwrdd at ddiben addysgu myfyrwyr ar yr amod bod y diwrnod hwnnw o fewn cyfnod amser y mae’r sefydliad yn cyflenwi’r rhan fwyaf o’i gyrsiau llawnamser ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 13 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Atgyfeiriad awdurdod lleol at Weinidogion Cymru er mwyn penderfynu a ddylai corff llywodraethu sefydliad addysg bellach gynnal cynllunLL+C

14.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag atgyfeiriad o dan adran 36 o Ddeddf 2018 gan awdurdod lleol at Weinidogion Cymru am benderfyniad o ran a ddylai corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad.

(2Rhaid i’r atgyfeiriad—

(a)cael ei wneud o fewn y cyfnod o 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod a ragnodir gan reoliad 13(2),

(b)cael ei wneud yn ysgrifenedig,

(c)dod gyda chopi o’r adrannau o’r cynllun datblygu unigol sy’n cynnwys y disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol y person ifanc a’r disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol, a

(d)dod gyda chopi o unrhyw wybodaeth arall yn y cynllun datblygu unigol y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i benderfynu ar y mater.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r person ifanc a’r corff llywodraethu am yr atgyfeiriad a gwahodd sylwadau.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r person ifanc, yr awdurdod lleol a’r corff llywodraethu am—

(a)eu penderfyniad o dan adran 36(4) o Ddeddf 2018, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(5Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylai’r corff llywodraethu gynnal y cynllun, mae dyletswydd y corff llywodraethu i’w gynnal o dan adran 12(4) o Ddeddf 2018 yn cymryd effaith—

(a)ar y diwrnod y caniateir ei bennu yn yr hysbysiad o dan baragraff (4);

(b)fel arall ar y diwrnod y mae’r corff llywodraethu yn cael yr hysbysiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 14 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Rhoi copïau o gynlluniau datblygu unigol mewn sefyllfaoedd trosglwyddoLL+C

15.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys o dan bob un o’r amgylchiadau a ganlyn—

(a)mae corff llywodraethu neu awdurdod lleol (“y corff newydd”) yn dod yn gyfrifol o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 am gynnal neu gadw cynllun datblygu unigol a oedd yn cael ei gynnal neu ei gadw yn flaenorol o dan y Rhan honno gan gorff llywodraethu arall neu awdurdod lleol arall (“yr hen gorff”);

(b)byddai awdurdod lleol (“y corff newydd”) yn dod yn gyfrifol o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 am gynnal neu gadw cynllun datblygu unigol a oedd yn cael ei gynnal neu ei gadw yn flaenorol o dan y Rhan honno gan gorff llywodraethu neu awdurdod lleol arall (“yr hen gorff”) oni bai am ddiffyg gwybodaeth y corff newydd am yr amgylchiadau sy’n arwain at ei gyfrifoldeb am y cynllun (gweler adrannau 30(5) a 42(5) o Ddeddf 2018 a rheoliad 22(3));

(c)mae corff llywodraethu ysgol a gynhelir (“y corff newydd”) yn dod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol yn rhinwedd bod awdurdod lleol (“yr hen gorff”) yn cyfarwyddo’r corff llywodraethu o dan adran 14(2)(b)(i) neu (4) o Ddeddf 2018.

(2Rhaid i’r hen gorff roi copi o’r cynllun i’r corff newydd oni bai bod gan y corff newydd gopi ohono eisoes.

(3Ond pan na fo’r hen gorff yn ymwybodol o’r amgylchiadau sy’n arwain at drosglwyddo cyfrifoldeb am y cynllun, nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (2) yn gymwys hyd nes bod yr hen gorff yn ymwybodol o’r amgylchiadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 15 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Cyfnodau adolygu pan fo plentyn wedi dod yn blentyn sy’n derbyn gofal neu pan fo plentyn neu berson ifanc wedi peidio â bod yn blentyn neu berson ifanc sy’n derbyn gofalLL+C

16.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys o dan bob un o’r amgylchiadau a ganlyn—

(a)mae awdurdod lleol yn dod yn gyfrifol, yn rhinwedd adran 35(10) o Ddeddf 2018, am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sydd wedi dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol (“y trosglwyddiad”);

(b)mae awdurdod lleol yn dod yn gyfrifol, yn rhinwedd adran 35(12) a (13) o Ddeddf 2018, am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc sydd wedi peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal (“y trosglwyddiad”).

(2At ddibenion penderfynu ar y cyfnod adolygu y mae rhaid i’r awdurdod lleol, o dan adran 24(1) (ar gyfer achos o fewn paragraff (1)(a)) neu 23(1) (ar gyfer achos o fewn paragraff (1)(b)) o Ddeddf 2018, adolygu’r cynllun yn gyntaf ynddo yn dilyn y trosglwyddiad, mae adrannau 23 a 24 o’r Ddeddf honno yn gymwys (er gwaethaf adran 23(12) ar gyfer achos o fewn paragraff (1)(a)) fel yr oeddent yn union cyn y trosglwyddiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 16 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Sicrhau darpariaeth arall pan fo cyfrifoldeb am gynllun yn cael ei drosglwyddoLL+C

17.—(1Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys—

(a)pan fo awdurdod lleol, yn dilyn trosglwyddo cyfrifoldeb am gynnal cynllun datblygu unigol o dan adran 35 o Ddeddf 2018, o dan ddyletswydd i sicrhau lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 14(6) neu 19(4) o’r Ddeddf honno, a

(b)pan na fo, yng ngoleuni’r amgylchiadau sydd wedi arwain at y trosglwyddiad, yn ymarferol mwyach i’r plentyn neu’r person ifanc fynychu’r ysgol neu’r sefydliad arall.

(2Nid yw dyletswydd yr awdurdod lleol i sicrhau’r lle yn yr ysgol neu’r sefydliad arall yn gymwys hyd nes ei bod yn bosibl diwygio’r cynllun ac eithrio pan fo’r awdurdod yn trefnu bwyd a llety o dan baragraff (3).

(3Caiff yr awdurdod lleol drefnu bwyd a llety er mwyn galluogi’r plentyn neu’r person ifanc i barhau i fynychu’r ysgol neu’r sefydliad arall hyd nes ei bod yn bosibl diwygio’r cynllun datblygu unigol.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 17 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Personau sy’n cael eu cadw’n gaethLL+C

Yr angen am gynllun datblygu unigol ar gyfer person sy’n cael ei gadw’n gaeth ar ôl ei ryddhauLL+C

18.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys at ddiben penderfyniad awdurdod cartref o dan adran 40(2)(b) o Ddeddf 2018.

(2Mae angen llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer person sy’n cael ei gadw’n gaeth ac eithrio—

(a)pan fo’n debygol y bydd y person sy’n cael ei gadw’n gaeth wedi cyrraedd 25 oed cyn cael ei ryddhau o gael ei gadw’n gaeth, neu

(b)pan fo’n annhebygol, yn achos person ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth, y bydd gan y person anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant pan gaiff ei ryddhau.

(3At ddibenion paragraff (2)(b), mae gan berson ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant o dan bob un o’r amgylchiadau a ganlyn—

(a)mae’r person ifanc wedi ei gofrestru’n ddisgybl neu wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn ysgol a gynhelir, sefydliad yn y sector addysg bellach neu Academi (pa un a yw’r ysgol a gynhelir neu’r sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu Loegr);

(b)mae gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant o dan reoliad 9(1);

(c)mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan reoliad 9(2) fod gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant.

(4Pan fo’r awdurdod cartref yn penderfynu na fydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff y person hwnnw ei ryddhau o gael ei gadw’n gaeth, rhaid i’r awdurdod cartref wneud y penderfyniad hwnnw a rhoi’r hysbysiad ohono o dan adran 40(4) o Ddeddf 2018 yn brydlon ac mewn unrhyw achos cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod—

(a)yn achos plentyn, y tynnwyd sylw’r awdurdod cartref, neu yr ymddangosai i’r awdurdod cartref fel arall, y gall fod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol;

(b)yn achos person ifanc, y cydsyniodd y person ifanc i’r penderfyniad gael ei wneud o ran a oes gan y person ifanc anghenion dysgu ychwanegol.

(5Nid oes angen i’r awdurdod cartref gydymffurfio â’r gofyniad i wneud y penderfyniad hwnnw a rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth.

(6Wrth hysbysu person sy’n cael ei gadw’n gaeth, ac os yw’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn blentyn, riant y plentyn, o dan adran 40(4) o Ddeddf 2018, na fydd angen cynllun datblygu unigol, rhaid i’r awdurdod cartref hefyd roi—

(a)manylion cyswllt ar gyfer yr awdurdod cartref;

(b)gwybodaeth am sut i gael mynediad at drefniadau’r awdurdod cartref o dan adran 9 o Ddeddf 2018 ar gyfer darparu i bobl wybodaeth a chyngor ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a’r system y gwneir darpariaeth ar ei chyfer gan Ran 2 o’r Ddeddf honno;

(c)manylion ynghylch trefniadau’r awdurdod cartref ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau o dan adran 68 o Ddeddf 2018;

(d)manylion ynghylch trefniadau’r awdurdod cartref ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 69 o Ddeddf 2018;

(e)gwybodaeth am yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys Addysg o dan adran 72 o Ddeddf 2018 yn erbyn y penderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 18 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i adran 44 o Ddeddf 2018LL+C

19.—(1Mae adran 44 o Ddeddf 2018 (darpariaethau penodol Rhan 2 nad ydynt i fod yn gymwys i blant a phersonau ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth) wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)yn is-adran (1), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)corff GIG.;

(b)yn is-adran (2), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(da)adran 20(5)(a) ac (c) (dyletswydd corff GIG i sicrhau triniaeth neu wasanaeth ac i gymryd pob cam rhesymol i’w sicrhau yn Gymraeg);.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 19 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Cadw’n gaeth o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983; cymhwyso Deddf 2018LL+C

Dehongli rheoliadau 20 i 25 ac Atodlen 2LL+C

20.—(1At ddibenion y rheoliad hwn, rheoliadau 21 i 25 ac Atodlen 2—

mae i “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 yr ystyr a roddir yn rheoliad 21;

ystyr “dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty” (“beginning of the detention in hospital”) mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 yw—

(a)

dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan y Rhan honno, neu

(b)

pan fo cyfnod o gadw’n gaeth mewn lle diogel yn unol â chyfarwyddydau llys o dan y Rhan honno yn union cyn y cyfnod hwnnw, dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth yn y lle diogel;

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983(2).

(2Mae rheoliad 2(2) yn ymdrin ag ystyr cyfeiriadau at berson sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw.

(3At ddibenion y diffiniad o “dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty” ym mharagraff (1), nid yw’n berthnasol a yw’r cyfnod cadw yn unol ag un gorchymyn ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 20 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Awdurdod lleol perthnasolLL+C

21.—(1Pan oedd y plentyn neu’r person ifanc yn berson a oedd yn cael ei gadw’n gaeth yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’r plentyn neu’r person ifanc yn gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983, ystyr “yr awdurdod lleol perthnasol” yw awdurdod cartref y plentyn neu’r person ifanc.

(2Pan nad oedd y plentyn neu’r person ifanc yn berson a oedd yn cael ei gadw’n gaeth yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’r plentyn neu’r person ifanc yn gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983—

(a)os oedd y plentyn neu’r person ifanc yn derbyn gofal yn union cyn dechrau’r cyfnod cadw hwnnw neu os yw wedi bod yn derbyn gofal ar unrhyw adeg ers hynny, ystyr yr “awdurdod lleol perthnasol” yw’r awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr sy’n gofalu am y plentyn neu’r person ifanc, neu sydd wedi gofalu am y plentyn neu’r person ifanc ddiweddaraf;

(b)fel arall ystyr yr “awdurdod lleol perthnasol” yw’r awdurdod lleol y mae’r plentyn neu’r person ifanc yn preswylio fel arfer yn ei ardal.

(3Ond nid yw awdurdod lleol yn Lloegr yn awdurdod lleol perthnasol.

(4At ddiben paragraff (1), mae’r diffiniadau o “awdurdod cartref” a “dechrau’r cyfnod o gadw person yn gaeth” (gweler adran 39 o Ddeddf 2018 sy’n cymhwyso ystyron a roddir yn adran 562J o Ddeddf Addysg 1996(3) yn ddarostyngedig, yn achos “awdurdod cartref”, i unrhyw reoliadau o dan adran 39(2)) yn gymwys fel pe bai’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 yn parhau i fod yn gyfnod o gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol.

(5At ddiben paragraff (2), mae plentyn neu berson ifanc yn derbyn gofal gan awdurdod lleol os yw’r plentyn neu berson ifanc yn derbyn gofal gan awdurdod lleol at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(4) neu gan awdurdod lleol yn Lloegr at ddibenion Deddf Plant 1989(5).

(6Wrth benderfynu at ddiben paragraff (2) lle y mae plentyn neu berson ifanc yn preswylio fel arfer, mae unrhyw gyfnod pan yw’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cadw i’w ddiystyru.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 21 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Plentyn neu berson ifanc a chanddo gynllun datblygu unigol cyn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbytyLL+C

22.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fo plentyn neu berson ifanc yn ddarostyngedig i orchymyn cadw,

(b)pan fo’r plentyn neu’r person ifanc yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983, ac

(c)pan oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal neu ei gadw ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i’w drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 o Ddeddf 2018 at ddibenion Rhan 2 o’r Ddeddf honno, ac unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 19(4) neu 40(7) o Ddeddf 2018 yn cael ei thrin fel pe bai’n cael ei disgrifio yn unol ag adran 14(6).

(3Ond nid yw’r ddyletswydd i gynnal y cynllun ym mharagraff (2) yn gymwys mewn perthynas â chynllun a oedd yn cael ei gynnal neu ei gadw gan gorff llywodraethu neu awdurdod lleol ac eithrio’r awdurdod lleol perthnasol oni thynnir sylw’r awdurdod lleol perthnasol at y ffaith bod y cynllun yn cael ei gynnal neu ei gadw.

(4Mae Deddf 2018 a darpariaethau eraill o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno (gan gynnwys y Rheoliadau hyn) yn gymwys gyda’r addasiadau y darperir ar eu cyfer yn Atodlen 2 mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc tra bo’r plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw yn ddarostyngedig i orchymyn cadw ac yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983.

(5Pan oedd y cynllun, yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty, yn cael ei gadw o dan Ran 2 o Ddeddf 2018, rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol—

(a)rhoi gwybod i’r plentyn neu’r person ifanc ei fod wedi dod yn gyfrifol am gynnal y cynllun,

(b)os yw’r cynllun ar gyfer plentyn, roi gwybod i riant y plentyn, ac

(c)adolygu’r cynllun,

(ar gyfer pan oedd y cynllun yn cael ei gynnal gan gorff arall yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty, gweler adrannau 22(2) a 23 o Ddeddf 2018 fel y’u cymhwysir gan y rheoliad hwn).

(6Rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol gwblhau’r adolygiad o’r cynllun yn brydlon ac mewn unrhyw achos o fewn y cyfnod o 7 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y mae’r plentyn neu’r person ifanc yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty.

(7Nid oes angen i’r awdurdod lleol perthnasol gwblhau’r adolygiad o fewn y cyfnod hwnnw o 7 wythnos os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod.

(8At ddibenion paragraff (6), mae adolygiad wedi ei gwblhau pan yw’r awdurdod lleol perthnasol yn rhoi, o dan Ran 2 o Ddeddf 2018, unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)copi o’r cynllun datblygu unigol diwygiedig;

(b)hysbysiad o benderfyniad na ddylid diwygio’r cynllun;

(c)hysbysiad o benderfyniad nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol mwyach;

(d)os yw’r person yn berson ifanc, hysbysiad o benderfyniad nad oes angen cynnal y cynllun mwyach i ddiwallu anghenion rhesymol y person ifanc am addysg neu hyfforddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 22 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Plentyn neu berson ifanc heb gynllun datblygu unigol cyn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbytyLL+C

23.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fo plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn cadw,

(b)pan fo’r plentyn yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983, ac

(c)pan nad oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal na’i gadw ar gyfer y plentyn o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty.

(2Mae’r rheoliad hwn hefyd yn gymwys—

(a)pan, ar neu ar ôl 1 Medi 2022—

(i)bo person ifanc yn ddarostyngedig i orchymyn cadw,

(ii)bo’r person ifanc yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983, a

(b)pan nad oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal na’i gadw ar gyfer y person ifanc o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty.

(3Mae Deddf 2018 a darpariaethau eraill o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno (gan gynnwys y Rheoliadau hyn) yn gymwys gyda’r addasiadau y darperir ar eu cyfer yn Atodlen 2 mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc tra bo’r plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw yn ddarostyngedig i orchymyn cadw ac yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 (yn benodol, gweler adran 13).

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 23 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Rhyddhau plentyn neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn ysbytyLL+C

24.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fo plentyn neu berson ifanc sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw ac yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 yn cael ei ryddhau o gael ei gadw’n gaeth,

(b)pan oedd awdurdod lleol perthnasol, yn union cyn rhyddhau’r plentyn neu’r person ifanc, yn cynnal cynllun datblygu unigol o dan adran 14 o Ddeddf 2018 ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc,

(c)pan fo awdurdod lleol, ar y dyddiad rhyddhau, yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, a

(d)pan na fo’r person a ryddheir, yn union wrth ei ryddhau, yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (ar gyfer pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn union wrth ei ryddhau, gweler adran 35(9) a (10) o Ddeddf 2018).

(2Rhaid i’r awdurdod lleol a grybwyllir ym mharagraff (1)(c) gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i’w drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 o Ddeddf 2018 at ddibenion Rhan 2 o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 24 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Plentyn neu berson ifanc yn trosglwyddo o gael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty i gael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasolLL+C

25.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo plentyn neu berson ifanc sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw yn trosglwyddo o gael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 i gael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu Loegr (ar gyfer pan fo plentyn neu berson ifanc o’r fath yn trosglwyddo i gael ei gadw’n gaeth mewn llety ac eithrio llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu Loegr, gweler adran 562 o Ddeddf Addysg 1996(6) ac adran 44 o Ddeddf 2018).

(2Wrth gymhwyso’r diffiniad o “beginning of the detention” (yn adran 562J o Ddeddf Addysg 1996), at ddibenion adran 42 o Ddeddf 2018, nid yw’r cyfnod parhaus y cyfeirir ato yn cynnwys y cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 nac unrhyw gyfnod cyn y cyfnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 25 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

(1)

2014 dccc 4. Mewnosodwyd adran 83(2A), a diwygiwyd adran 83 yn fwy cyffredinol, gan adran 16 o Ddeddf 2018.

(2)

1983 p. 20. Mewnosododd adran 46 o Ddeddf (Dedfrydau) Troseddau 1997 (p. 43) adrannau 45A a 45B yn Rhan 3. Mae diwygiadau eraill i Ran 3 nad ydynt yn berthnasol.

(3)

1996 p. 56. Mewnosodwyd adran 562J gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 50. Mae diwygiadau perthnasol iddi wedi eu gwneud gan O.S. 2010/1158, Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 16(1), (2) a (4).

(4)

2014 dccc 4. Mae adran 74 yn darparu ar gyfer dehongli cyfeiriadau yn y Ddeddf honno at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol.

(5)

1989 p. 41. Mae adrannau 22(1) a 105(4) yn darparu ar gyfer dehongli cyfeiriadau at blentyn sy’n derbyn gofal. Mae adran 22(1) wedi ei diwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22), Atodlen 5, paragraff 19, Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p. 35), adran 2(1) a (2) ac O.S. 2016/413, rheoliadau 55 a 69(a). Amnewidiwyd adran 105(4) gan O.S. 2016/413, rheoliadau 55 a 106(b).

(6)

1996 p. 56. Mae adran 562 wedi ei diwygio gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4), Atodlen 4, Rhan 1, paragraff 47, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 49, O.S. 2010/1158, Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 7(1) i (3) ac O.S. 2016/413, rheoliadau 153 a 157.