Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014
4.—(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system integredig gweinyddu a rheoli, mesurau datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio(1), wedi ei ddiwygio, i’r graddau y mae’n ymwneud â chymorth domestig ar gyfer datblygu gwledig, fel a ganlyn.
(2) Yn Erthygl 4, hepgorer y paragraff olaf.
(3) Yn Erthygl 6(2), ym mhwynt (c), yn lle “Articles 13 and 14” rhodder “Article 13”.
(4) Yn Erthygl 15—
(a)hepgorer paragraff 1b;
(b)hepgorer paragraff 2b;
(c)ym mharagraff 3, hepgorer yr is-baragraff olaf.
(5) Yn Erthygl 17—
(a)hepgorer paragraff 2;
(b)hepgorer paragraff 5;
(c)hepgorer paragraff 6.
(6) Yn Erthygl 25, hepgorer “and shall not exceed 14 days”.
(7) Yn Erthygl 26—
(a)hepgorer paragraff 2;
(b)hepgorer paragraff 4.
(8) Yn Erthygl 27, hepgorer yr ail baragraff a’r trydydd.
(9) Yn Erthygl 32—
(a)ym mharagraff 1—
(i)yn yr is-baragraff cyntaf, hepgorer y frawddeg olaf;
(ii)hepgorer yr ail is-baragraff;
(b)hepgorer paragraff 2;
(c)hepgorer paragraff 2a;
(d)hepgorer paragraff 4.
(10) Ar ôl Erthygl 32 mewnosoder—
“Article 32a
For animal aid schemes, the control sample for on-the-spot checks carried out each year shall for each of the aid schemes cover at least 5% of all beneficiaries applying for that respective aid scheme.”
(11) Yn Erthygl 34—
(a)ym mharagraff 2, hepgorer yr is-baragraff olaf;
(b)hepgorer paragraffau 3, 4 a 4a;
(c)ym mharagraff 5—
(i)yn lle “shall” rhodder “may”;
(ii)ym mhwynt (d), ar ôl “that” mewnosoder “may”.
(12) Yn Erthygl 35, hepgorer “or in a region or part of a region”.
(13) Yn Erthygl 36(4), hepgorer yr ail is-baragraff.
(14) Yn Erthygl 38—
(a)hepgorer y frawddeg olaf ym mharagraff 5;
(b)hepgorer paragraff 9;
(c)ym mharagraff 10, hepgorer “or permanent pastures”.
(15) Yn Erthygl 39, hepgorer paragraff 4.
(16) Hepgorer Erthygl 40a.
(17) Yn Erthygl 41—
(a)hepgorer yr is-baragraff olaf ym mharagraff 1;
(b)yn yr is-baragraff olaf ym mharagraff 2—
(i)hepgorer “or by means of monitoring in accordance with Article 40a,”;
(ii)hepgorer “or by monitoring” yn y ddau le y mae’n digwydd;
(iii)hepgorer y frawddeg olaf.
(18) Yn Erthygl 42(1), yn yr ail is-baragraff—
(a)hepgorer “at least 50% of”;
(b)yn lle “shall”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “may”.
(19) Yn Erthygl 43(2), yn lle “shall” rhodder “may” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd.
(20) Yn Erthygl 46, hepgorer “, Article 39b and Article 51(2)”.
(21) Yn Erthygl 47(2), hepgorer “and 19(1)(c),”.
(22) Yn Erthygl 48—
(a)ym mharagraff 2—
(i)yn yr is-baragraff cyntaf, hepgorer “State aid”;
(ii)ym mhwynt (e)—
(aa)yn lle “EUR 5 000” rhodder “£5 000”;
(bb)hepgorer “ex ante”;
(b)ym mharagraff 5—
(i)ar ddiwedd yr is-baragraff cyntaf mewnosoder—
“Those checks shall, to the extent possible, be carried out before the final payment is made for an operation.”;
(ii)hepgorer pwynt (a).
(23) Hepgorer Erthyglau 49 i 51.
(24) Yn Erthygl 52(3), yn lle’r frawddeg olaf rhodder “A sample shall be selected randomly.”
(25) Hepgorer Erthygl 62.
(26) Yn Erthygl 63—
(a)ym mharagraff 1, yn lle “calculated” rhodder “adjusted”;
(b)hepgorer paragraff 2.
(27) Yn Erthygl 68—
(a)ym mharagraff 1—
(i)yn yr is-baragraff cyntaf, hepgorer “and the other beneficiaries receiving direct payment support”;
(ii)hepgorer yr ail is-baragraff a’r trydydd;
(b)ym mharagraff 4, yn lle “shall” rhodder “may”.
(28) Yn Erthygl 69(1), hepgorer brawddeg olaf yr is-baragraff cyntaf.
(29) Yn Erthygl 70—
(a)ym mharagraff 3, hepgorer y geiriau o “or by using” hyd at y diwedd;
(b)hepgorer paragraff 4.
(30) Hepgorer Erthyglau 70a a 70b.
(31) Yn Erthygl 72—
(a)ym mharagraff 1, hepgorer yr is-baragraff olaf;
(b)ym mharagraff 2, hepgorer “checked by monitoring in accordance with Article 70a,”;
(c)ym mharagraff 3, hepgorer brawddeg olaf yr is-baragraff cyntaf;
(d)ym mharagraff 4, hepgorer ail frawddeg yr is-baragraff cyntaf.
EUR 2014/809, a ddiwygiwyd mewn perthynas â chynlluniau taliadau uniongyrchol gan O.S. 2020/90 a 576. Mae EUR 2014/809 hefyd wedi ei ddiwygio mewn perthynas â chynlluniau datblygu gwledig yng Nghymru gan O.S. 2020/510 a 575. Mae EUR 2014/809 hefyd wedi ei ddiwygio gan O.S. 2019/765. Er hynny, yn rhinwedd y diwygiadau yn O.S. 2020/1445, nid yw’r diwygiadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â chymorth datblygu gwledig.