Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 400 (Cy. 129)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

Gwnaed

25 Mawrth 2021

Yn dod i rym

26 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 46 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020(1), a pharagraffau 2(1), 4(1) a 6(1) o Atodlen 5 iddi, a pharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(2).

Yn unol ag adran 50(6)(c) ac (8) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 a pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(2)

2018 p. 16. Gweler adran 20(1) am y diffiniad o “devolved authority”.