2021 Rhif 400 (Cy. 129)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 46 o Ddeddf Amaethyddiaeth 20201, a pharagraffau 2(1), 4(1) a 6(1) o Atodlen 5 iddi, a pharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20182.

Yn unol ag adran 50(6)(c) ac (8) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 a pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.