Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2021
Enwi, cychwyn, dod i ben a dehongli
1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2021. Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mai 2021.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliad 6 a’r rheoliad hwn, yn peidio â chael effaith ar 31 Rhagfyr 2021.
(3)
Mae rheoliad 6 a’r rheoliad hwn yn peidio â chael effaith ar 4 Awst 2022.
(4)
Cyfarfodydd a gynhelir cyn diwedd 31 Rhagfyr 2021
2.
“Mynychu cyfarfodydd o bell2A.
(1)
Caniateir i gyfarfod o fforwm neu bwyllgor o fforwm gael ei gynnal drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i siarad â’i gilydd a chlywed ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster hefyd yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ai peidio).
(2)
Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at y ffaith bod person yn mynychu cyfarfod neu’n bresennol mewn cyfarfod yn cynnwys, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir drwy’r cyfrwng a ddisgrifir ym mharagraff (1), mynychu drwy ddefnyddio’r cyfrwng hwnnw.”
3.
“Darpariaethau ar gyfer penodiadau dros dro7A.
(1)
Mae’r darpariaethau a ganlyn yn ymwneud â phenodiad a wneir yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym ac sy’n dod i ben ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2021.
(2)
Yn rheoliad 7(a) and (b) o Reoliadau 2001”., mae “rhaid i” i’w ddarllen fel “caiff”.
(3)
Os nad yw awdurdod penodi yn arfer y naill neu’r llall o’r pwerau yn rheoliadau 7(a) a (b), neu’r ddau ohonynt, mae rheoliad 4(3) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “naw mis i ben sy’n dechrau gyda diwrnod cyntaf aelodaeth y person” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau “dair blynedd i ben o ddyddiad cyfarfod cyntaf y fforwm ”. ”
4.
Mae rheoliad 10(2)(c) (papurau ar gyfer cyfarfodydd) i’w ddarllen, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn diwedd 31 Rhagfyr 2021, fel pe bai’r geiriau “yn cael eu hanfon drwy’r post at bob aelod o’r fforwm yn y cyfeiriad hwnnw a bennir gan aelod at y diben, fel y cyflwynir hwy yn ôl y drefn bostio arferol o leiaf saith diwrnod clir cyn dyddiad cyfarfod; neu’n cael eu hanfon ar ffurf electronig at bob aelod o leiaf saith diwrnod clir cyn dyddiad cyfarfod” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “yn cael eu cyflwyno” hyd at y diwedd.
5.
Mae rheoliad 12 (ethol cadeirydd a dirprwy gadeirydd) i’w ddarllen fel pe bai—
(a)
ym mharagraff (2), “gan ddefnyddio unrhyw weithdrefn y mae’r fforwm yn penderfynu arni” wedi ei roi yn lle “drwy bleidlais gyfrinachol”;
(b)
paragraffau (4) i (6) wedi eu hepgor.
6.
Mae rheoliad 15 (cynnal cyfarfodydd) i’w ddarllen fel pe bai—
(a)
ym mharagraff (2), y geiriau “ac os yw’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd, caiff y person sy’n llywyddu, os yw eitem benodol o fusnes sydd i’w hystyried yn y cyfarfod yn ei gwneud yn briodol i’r cyhoedd gael ei wahardd pan ystyrir yr eitem fusnes honno, ddyfarnu bod y cyhoedd i’w wahardd” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “a rhaid iddynt fod yn agored i’r cyhoedd” hyd at y diwedd;
(b)
“(2A)
Ym mharagraffau (1) a (2), nid yw’r cyfeiriadau at y lle y cynhelir cyfarfodydd wedi eu cyfyngu i un lleoliad ffisegol.”;
(c)
ym mharagraff (10), “, neu drwy unrhyw ddull pleidleisio arall y mae’r fforwm yn penderfynu arno” wedi ei fewnosod ar ôl “drwy i’r aelodau sy’n bresennol godi llaw”;
(d)
“(11)
Os yw’n angenrheidiol cynnal pleidlais ar gwestiwn y dull pleidleisio y mae’r fforwm i’w ddefnyddio, mae’r person sy’n llywyddu i benderfynu ar y dull o bleidleisio ar y cwestiwn hwnnw.”
Aelodau yn methu â mynychu cyfarfodydd
7.
“(1A)
Mewn perthynas ag unrhyw aelod penodol o fforwm, nid yw’r cyfnod o 12 mis a bennir ym mharagraff (1)(e) i gynnwys y cyfnod—
(a)
sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 yn dod i rym (“Diwrnod Un”), a
(b)
sy’n dod i ben â’r diwrnod cyntaf ar ôl Diwrnod Un pan gynhelir cyfarfod o’r fforwm, neu unrhyw bwyllgor o’r fforwm.”
Adroddiadau blynyddol gan awdurdodau penodi
8.
“(3)
Rhaid i’r awdurdod penodi gyhoeddi adroddiad blynyddol a gymeradwyir ar ôl 31 Ebrill 2021 a chyn diwedd 31 Rhagfyr 2021 ar ei wefan a rhaid iddo hefyd fod ar gael i edrych arno yn swyddfa’r awdurdod penodi yn ystod oriau swyddfa arferol.”
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau nad ydynt yn rhai testunol i Reoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”) er mwyn sicrhau bod Fforymau Mynediad Lleol yn gallu parhau i gyfarfod a gwneud penderfyniadau yn ystod y cyfnod o amhariad a achosir gan bandemig y coronafeirws.
Ac eithrio rheoliadau 1 a 6, mae’r Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar 31 Rhagfyr 2021.
Mae rheoliadau 1 a 6 yn peidio â chael effaith ar 4 Awst 2022.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn galluogi Fforymau Mynediad Lleol i gynnal cyfarfodydd o bell yn hytrach na gorfod eu cynnal mewn un lleoliad ffisegol.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch penodiadau dros dro i Fforymau Mynediad Lleol, drwy roi’r pŵer i’r awdurdodau penodi ddewis peidio ag arfer y gofynion yn rheoliadau 7(a) a (b) mewn perthynas â phenodiadau a wneir yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym ac yn dod i ben ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2021. Mae hefyd yn darparu na chaniateir gwneud y penodiadau hynny ond am gyfnod o hyd at 9 mis o ddyddiad y penodiad. Diben y ddarpariaeth hon yw caniatáu i unrhyw aelodau o Fforymau Mynediad Lleol y mae cyfnod eu penodiad wedi dod i ben yn ddiweddar gael eu hailbenodi yn gyflym ac mewn modd syml os nad yw’n bosibl cynnal cylch recriwtio llawn ar hyn o bryd.
Mae rheoliad 4 yn caniatáu i bapurau ar gyfer cyfarfodydd gael eu hanfon ar ffurf electronig.
Mae rheoliad 5 yn caniatáu ethol y Cadeirydd neu’r Dirprwy Gadeirydd drwy ddull ac eithrio drwy bleidlais gyfrinachol, os nad yw hynny’n opsiwn sydd ar gael iddynt, ac yn caniatáu i’r Fforymau Mynediad Lleol benderfynu ar eu gweithdrefn eu hunain.
Mae rheoliad 6 yn caniatáu i’r person sy’n llywyddu wahardd y cyhoedd o eitem benodol o fusnes os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
Mae rheoliad 7 yn darparu, at ddiben cyfrifo’r cyfnod o 12 mis pan fydd aelod wedi methu â bod yn bresennol mewn cyfarfodydd cyn y caniateir terfynu ei aelodaeth, bod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ac sy’n dod i ben â’r diwrnod cyntaf ar ôl Diwrnod Un pan gynhelir cyfarfod o’r fforwm, neu unrhyw bwyllgor o’r fforwm i’w ddiystyru.
Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau blynyddol a gymeradwyir ar ôl 30 Ebrill 2021 a chyn 31 Rhagfyr 2021 gael eu cyhoeddi ar wefan yr awdurdod penodi, a’u bod hefyd ar gael i edrych arnynt yn swyddfa’r awdurdod penodi.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.