Offerynnau Statudol Cymru
Ystadegau Swyddogol, Cymru
Gwnaed
24 Mawrth 2021
Yn dod i rym
1 Ebrill 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 6(1)(b)(iii) a (2) o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007(1).
Yn unol ag adran 6(3) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Bwrdd Ystadegau.
Yn unol ag adran 65(7) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru(2) ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2021.
2. Yn yr Atodlen i Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017(3), ar ôl “Hybu Cig Cymru” mewnosoder “Iechyd a Gofal Digidol Cymru”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r Atodlen i Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1142 (Cy. 284)) (“Gorchymyn 2017”). Mae Gorchymyn 2017 yn darparu bod yr ystadegau a gynhyrchir, neu sydd i’w cynhyrchu, gan y personau a restrir yn yr Atodlen yn ystadegau swyddogol at ddiben Rhan 1 o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 (p. 18) (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r Atodlen i Orchymyn 2017 i ddarparu bod yr ystadegau a gynhyrchir, neu sydd i’w cynhyrchu, gan “Iechyd a Gofal Digidol Cymru” yn ystadegau swyddogol at ddiben Rhan 1 o’r Ddeddf. Sefydlwyd “Iechyd a Gofal Digidol Cymru” fel Awdurdod Iechyd Arbennig gan Orchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 2020 (O.S. 2020/1451 (Cy. 313)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae’r cyfeiriad yn adran 65(7) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).