Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021
Yn unol ag adran 6(3) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Bwrdd Ystadegau.
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2)
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2021.
Diwygio Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 20172.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r Atodlen i Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1142 (Cy. 284)) (“Gorchymyn 2017”). Mae Gorchymyn 2017 yn darparu bod yr ystadegau a gynhyrchir, neu sydd i’w cynhyrchu, gan y personau a restrir yn yr Atodlen yn ystadegau swyddogol at ddiben Rhan 1 o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 (p. 18) (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r Atodlen i Orchymyn 2017 i ddarparu bod yr ystadegau a gynhyrchir, neu sydd i’w cynhyrchu, gan “Iechyd a Gofal Digidol Cymru” yn ystadegau swyddogol at ddiben Rhan 1 o’r Ddeddf. Sefydlwyd “Iechyd a Gofal Digidol Cymru” fel Awdurdod Iechyd Arbennig gan Orchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 2020 (O.S. 2020/1451 (Cy. 313)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.