Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 395 (Cy. 126)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2021

Gwnaed

24 Mawrth 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

26 Mawrth 2021

Yn dod i rym

16 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 10(2)(a)(vii), (viii) a (ix), a (4) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 16 Ebrill 2021.

Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017

2.  Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017(2) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.

3.  Ar ôl rheoliad 2 (dehongli) mewnosoder—

Cymhwyso’r Rheoliadau hyn i ddatganiadau blynyddol ar gyfer blynyddoedd ariannol penodedig

2A.  Nid yw’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddatganiadau blynyddol a gyflwynir ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r blynyddoedd ariannol a bennir yn rheoliad 10(1)—

(a)rheoliadau 3 i 6;

(b)yr Atodlen.

4.  Yn rheoliad 10(1) (terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau blynyddol), yn lle “26 Mai 2021” rhodder “26 Mai 2022”.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

24 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) (“y Ddeddf”). Maent yn diwygio gofyniad penodol a osodir ar ddarparwyr gofal cymdeithasol cofrestredig ac maent wedi eu gwneud mewn ymateb i ledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn gosod gofynion ar ddarparwyr y gwasanaethau gofal cymdeithasol a reoleiddir gan y Ddeddf. Maent yn cynnwys gofyniad yn adran 10 i gyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1097 (Cy. 277)) (“y Rheoliadau Datganiadau Blynyddol”) yn darparu manylion pellach am y datganiadau blynyddol. Maent yn cynnwys darpariaeth a wneir o dan adran 10(4) ynghylch y dyddiadau erbyn pryd y mae rhaid cyflwyno’r datganiadau.

Maeʼr Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 10(1) o’r Rheoliadau Datganiadau Blynyddol. Mae’r rheoliad hwnnw yn ymwneud â’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cyflwyno datganiadau blynyddol sy’n ymwneud â blynyddoedd ariannol 2018-19, 2019-20 a 2020-21. Effaith y diwygiad a wneir gan reoliad 4 yw bod rhaid i ddarparwyr pob math o wasanaethau rheoleiddiedig gyflwyno datganiadau blynyddol heb fod yn hwyrach na 26 Mai 2022. Yn flaenorol, roedd yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gyflwyno datganiadau blynyddol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018-19, 2019-2020 a 2020-21 heb fod yn hwyrach na 26 Mai 2021.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn mewnosod rheoliad newydd 2A yn y Rheoliadau Datganiadau Blynyddol sy’n datgymhwyso darpariaethau penodol o’r Rheoliadau hynny mewn perthynas â datganiad blynyddol a gyflwynir mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r blynyddoedd ariannol a bennir yn rheoliad 10(1) (fel y’i diwygiwyd gan reoliad 4).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2016 dccc 2; gweler y diffiniad o “a ragnodir” a “rhagnodedig” yn adran 189.