2021 Rhif 395 (Cy. 126)
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2021
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 10(2)(a)(vii), (viii) a (ix), a (4) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20161.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2021.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 16 Ebrill 2021.
Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017
2
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 20172 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3
Ar ôl rheoliad 2 (dehongli) mewnosoder—
Cymhwyso’r Rheoliadau hyn i ddatganiadau blynyddol ar gyfer blynyddoedd ariannol penodedig2A
Nid yw’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddatganiadau blynyddol a gyflwynir ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r blynyddoedd ariannol a bennir yn rheoliad 10(1)—
a
rheoliadau 3 i 6;
b
yr Atodlen.
4
Yn rheoliad 10(1) (terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau blynyddol), yn lle “26 Mai 2021” rhodder “26 Mai 2022”.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)