Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p.16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill (yn benodol y diffygion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (d) a (g) o adran 8(2)) sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio diffygion yn Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379) (Cy. 252) (“Rheoliadau 2011”) o ganlyniad i ymadael â’r UE. Mae Rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2011 er mwyn newid y dyddiad y mae gofynion hysbysu trosiannol o flaen llaw yn gymwys ar gyfer cynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid o’r 1 Ebrill 2021 i 31 Gorffennaf 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru argynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol oddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.