Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 384 (Cy. 122)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Anifeiliaid, Cymru

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

22 Mawrth 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

24 Mawrth 2021

Yn dod i rym

31 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, bod angen gwneud y Rheoliadau hyn heb osod drafft o’r offeryn gerbron Senedd Cymru, na chymeradwyo’r drafft hwnnw drwy benderfyniad ganddi(2).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2021.

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

2.—(1Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 5—

(a)Ym mharagraff 5(3), yn lle “1 Ebrill 2021” rhodder “31 Gorffennaf 2021”;

(b)Ym mharagraff 6(1)(c), yn lle “1 Ebrill 2021” rhodder “31 Gorffennaf 2021”.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

22 Mawrth 2021

EXPLANATORY NOTE

(This note is not part of the Regulations)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p.16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill (yn benodol y diffygion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (d) a (g) o adran 8(2)) sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio diffygion yn Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379) (Cy. 252) (“Rheoliadau 2011”) o ganlyniad i ymadael â’r UE. Mae Rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2011 er mwyn newid y dyddiad y mae gofynion hysbysu trosiannol o flaen llaw yn gymwys ar gyfer cynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid o’r 1 Ebrill 2021 i 31 Gorffennaf 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru argynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol oddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2018 p. 16; gweler adran 20(1) am y diffiniad o “devolved authority”. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o, a pharagraff 53(2) o Ran 2 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p.1).

(2)

Mae’r cyfeiriadau yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

O.S. 2011/2379 (Cy. 252). Mewnosodwyd Atodlen 5 gan reoliad 32 o O.S. 2020/1612 (Cy. 337). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.