2021 Rhif 384 (Cy. 122)
Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181.
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, bod angen gwneud y Rheoliadau hyn heb osod drafft o’r offeryn gerbron Senedd Cymru, na chymeradwyo’r drafft hwnnw drwy benderfyniad ganddi2.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2021.
Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20112
1
Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20113 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn Atodlen 5—
a
Ym mharagraff 5(3), yn lle “1 Ebrill 2021” rhodder “31 Gorffennaf 2021”;
b
Ym mharagraff 6(1)(c), yn lle “1 Ebrill 2021” rhodder “31 Gorffennaf 2021”.
(This note is not part of the Regulations)