2021 No. 383 (Cy. 121) (C. 14)
Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021

Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 20181, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021.

(2)

Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “addysg feithrin” yr un ystyr â “nursery education” yn adran 117 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—

  1. (i)
    adran 312(2)2 o Ddeddf 1996—
    1. (aa)

      mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,

    2. (bb)

      mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,

  2. (ii)

    adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;

mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;

mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 5793 o Ddeddf 1996;

ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 6 oed;

ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 8 oed;

ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 9 oed;

ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 10 oed;

ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 12 oed;

ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 13 oed;

ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 14 oed;

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;

mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 5794 o Ddeddf 1996;

ystyr “cod” (“code”) yw cod ar anghenion dysgu ychwanegol a ddyroddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;

mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC Plan” yn adran 37(2)5 o Ddeddf 2014;

ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;

mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—

  1. (i)
    adran 312(4)6 o Ddeddf 1996—
    1. (aa)

      mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,

    2. (bb)

      mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,

  2. (ii)

    adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 19967;
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 20148;
mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 4349 o Ddeddf 1996;

mae i “diwrnod ysgol” yr un ystyr â “school day” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth o ddisgyblion y mae addysg feithrin yn cael ei darparu iddynt;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 1996;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;

mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr â phlentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn adran 15 o’r Ddeddf;

ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 201210;

mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn adran 576 o Ddeddf 1996;

mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” (“institution in the further education sector”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf;

ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru11;
mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr un ystyr â “pupil referral unit” yn adran 19(2)12 o Ddeddf 1996;
mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)13 o Ddeddf 1996;
mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in England” yn adran 579(3A)14 o Ddeddf 1996;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw unrhyw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol, unrhyw ysgol feithrin a gynhelir, neu unrhyw ysgol arbennig gymunedol nad yw wedi ei sefydlu mewn ysbyty o fewn ystyr Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 199815;

mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.

(3)

Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996 ond ac eithrio—

(a)

adran 323;

(b)

adran 329;

(c)

adran 329A.

(4)

Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “y gyfraith newydd” yn gyfeiriadau at—

(a)

y Ddeddf,

(b)

rheoliad neu’r cod a wneir o dan y Ddeddf honno, ac

(c)

unrhyw ddarpariaeth arall o Ddeddf neu a wneir o dan Ddeddf sy’n cael effaith at ddibenion y canlynol neu mewn perthynas â’r canlynol—

(i)

darpariaeth o’r Ddeddf honno neu reoliadau neu god o’r fath, neu

(ii)

person y mae’r Ddeddf honno neu reoliadau neu god o’r fath yn gymwys iddo.

(5)

At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—

(a)

os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a

(b)

os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.

(6)

At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw yn ardal yr awdurdod.

Ystyr anghenion addysgol arbennig a nodwyd

2.

(1)

At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan blentyn (“P”) “anghenion addysgol arbennig a nodwyd” os yw P yn ddisgybl cofrestredig—

(a)

mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac yn blentyn sy’n derbyn gofal ond nid yn blentyn sy’n derbyn gofal sydd yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr;

(b)

mewn uned cyfeirio disgyblion yng Nghymru; neu

(c)

mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac—

(i)

yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach); a

(ii)

y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am P;

a bod ganddo anhawster dysgu a nodwyd gan gorff llywodraethu’r ysgol neu’r uned y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.

(2)

Ond nid yw’n cynnwys plentyn—

(a)

y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996;

(b)

y mae awdurdod lleol yn cynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef;

(c)

y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;

(d)

y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;

(e)

y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—

(i)

nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;

(ii)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu

(iii)

dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;

(f)

y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;

(g)

y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—

(i)

nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;

(ii)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(iii)

dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—

(aa)

gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn; neu

(bb)

ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;

(h)

y mae rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ond nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn;

(i)

y mae awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â chynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 mwyach ac—

(i)

nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben; neu

(ii)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(j)

y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;

(k)

nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 140 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 200016

(i)

yn mynd rhagddo; neu

(ii)

wedi arwain at adroddiad ar anghenion addysgol a hyfforddi y person a’r ddarpariaeth sy’n ofynnol i’w diwallu;

(l)

y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);

(m)

y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36, beidio â sicrhau asesiad o anghenion AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)

nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)

bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)

bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(v)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;

(n)

y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—

(i)

nad yw’r asesiad wedi cychwyn,

(ii)

bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu

(iii)

nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;

(o)

y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)

nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)

bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)

bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(v)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—

(aa)

gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn; neu

(bb)

ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;

(p)

y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 ei bod yn angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ond nad yw’r cynllun hwnnw wedi ei lunio;

(q)

y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)

nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)

bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)

bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2021

3.

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2021 mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—

(a)

adrannau 2 i 4;

(b)

adrannau 6 i 14;

(c)

adrannau 16 i 36;

(d)

adran 38;

(e)

adrannau 40 i 44;

(f)

adrannau 47 i 49;

(g)

adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);

(h)

adran 50(4) i (5);

(i)

adrannau 51 i 53;

(j)

adran 55;

(k)

adran 59;

(l)

adrannau 63 i 66;

(m)

adrannau 68 i 69;

(n)

adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);

(o)

yn yr Atodlen—

(i)

paragraff 1;

(ii)

paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (x);

(iii)

paragraff 4(2) i 4(8);

(iv)

paragraff 4(9);

(v)

paragraff 4(10);

(vi)

paragraff 4(13) i 4(18);

(vii)

paragraff 4(19)(b);

(viii)

paragraff 4(20) a 4(21);

(ix)

paragraff 4(23) i 4(29);

(x)

paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);

(xi)

paragraff 7;

(xii)

paragraff 8;

(xiii)

paragraff 11(a);

(xiv)

paragraff 12(a);

(xv)

paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvi);

(xvi)

paragraff 14(2) a (3);

(xvii)

paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xviii);

(xviii)

paragraff 19(5)(e)(ii);

(xix)

paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xx);

(xx)

paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);

(xxi)

paragraff 22;

(xxii)

paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiii);

(xxiii)

paragraff 23(4);

(xxiv)

paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxv);

(xxv)

paragraff 24(2) i (3), (5) a (6)(a).

Darpariaeth arbed

4.

Yn ddarostyngedig i erthyglau 5, 6, 7 ac 8, er bod Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 199617 wedi ei datgymhwyso gan adran 96 o’r Ddeddf a pharagraff 4(9) o’r Atodlen iddi mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd—

(a)

mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw; a

(b)

nid yw’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.

Cymhwyso’r gyfraith newydd

5.

(1)

Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 ac sydd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10 ar ddechrau’r flwyddyn ysgol 2021-2022.

(2)

Mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddechrau’r flwyddyn ysgol 2021-2022.

(3)

Mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddechrau’r flwyddyn ysgol 2021-2022.

6.

(1)

Yn ddarostyngedig i erthygl 8, mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 ac sydd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 5, blwyddyn 9 neu flwyddyn 10 ar ddechrau’r flwyddyn ysgol 2022-2023.

(2)

Mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddechrau’r flwyddyn ysgol 2022-2023.

(3)

Mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddechrau’r flwyddyn ysgol 2022-2023.

7.

(1)

Yn ddarostyngedig i erthygl 8, mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 ac nad oedd erthygl 5 na 6 yn gymwys iddo.

(2)

Mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddechrau’r flwyddyn ysgol 2023-2024.

(3)

Mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddechrau’r flwyddyn ysgol 2023-2024.

Hawl i ofyn am benderfyniad ynghylch a oes gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol

8.

(1)

Caiff plentyn, sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 neu riant y plentyn hwnnw, ofyn i’r person priodol benderfynu o dan Ran 2 o’r Ddeddf a oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol.

(2)

Mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad y daw’r cais i law.

(3)

Mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.

(4)

Yn yr erthygl hon—

(a)

ystyr “person priodol” yw—

(i)

yr awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gyfrifol am y plentyn pan fo’r plentyn hwnnw yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu mewn uned cyfeirio disgyblion yng Nghymru ac—

(aa)

yn blentyn sy’n derbyn gofal;

(bb)

yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach) a bod awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y plentyn;

(ii)

pwyllgor rheoli’r uned cyfeirio disgyblion y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi os nad yw’r plentyn yn dod o fewn paragraff (i)(aa) neu (bb);

(b)

ystyr “pwyllgor rheoli” yw pwyllgor rheoli a sefydlir ar gyfer uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd paragraff 15 o Atodlen 1 i Ddeddf 1996.

Sylw i ddarpariaeth addysgol arbennig wrth lunio cynllun datblygu unigol

9.

Wrth lunio cynllun datblygu unigol am y tro cyntaf ar gyfer plentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a nodwyd ar 1 Medi 2021, rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol (yn ôl y digwydd) roi sylw i’r ddarpariaeth addysgol arbennig a ddarparwyd i’r plentyn yn union cyn y gwnaed y penderfyniad o dan Ran 2 o’r Ddeddf fod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol.

Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Medi 2021 mewn perthynas â’r rheini nad ydynt yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol, sy’n mynychu ysgol a gynhelir, sydd ag anghenion addysgol arbennig penodol a nodwyd ac sydd naill ai yn blant sy’n derbyn gofal neu sydd wedi cofrestru mewn sefydliad arall. Daw’r darpariaethau hefyd i rym ar gyfer y rheini nad ydynt yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ac sy’n mynychu uned cyfeirio disgyblion ac sydd ag anghenion addysgol arbennig penodol a nodwyd. Mae’n eithrio rhai eraill sy’n ymwneud â’r fframwaith statudol presennol, gan gynnwys y rheini sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig.

Mae erthygl 1 yn cynnwys diffiniadau, gan gynnwys y “gyfraith newydd” yn y Ddeddf a’r “hen gyfraith” yn Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996. Hyd nes y caiff plentyn ei drosglwyddo i’r gyfraith newydd, bydd yr hen gyfraith yn parhau i fod yn gymwys i’r plentyn ac ni fydd y gyfraith newydd yn cael effaith.

Mae’r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo plentyn i’r gyfraith newydd gan ddibynnu ar grŵp blwyddyn y plentyn mewn blwyddyn ysgol benodol (erthyglau 5 a 6). Er enghraifft, bydd plentyn sydd mewn dosbarth meithrin neu sydd ym mlwyddyn 1, 3, 5, 7 neu 10 ar 1 Medi 2021 yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar 1 Medi 2021. Bydd plentyn sydd mewn dosbarth meithrin neu sydd ym mlwyddyn 1, 5, 9 neu 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023 yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar 1 Medi 2022. Bydd unrhyw blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 ac na throsglwyddodd i’r gyfraith newydd yn rhinwedd erthygl 5 neu 6, yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar 1 Medi 2023 (erthygl 7).

Gall plentyn ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd neu riant y plentyn ofyn i’r person priodol benderfynu o dan Ran 2 o’r Ddeddf a oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol . Bydd cais o’r fath yn sbarduno trosglwyddiad i’r gyfraith newydd (erthygl 8).

Wrth lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd, rhaid rhoi sylw i’r ddarpariaeth addysgol arbennig yr oedd y plentyn yn ei chael yn union cyn y gwnaed y penderfyniad o dan Ran 2 o’r Ddeddf fod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol (erthygl 9).

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn18:

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 4 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 5

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 7 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 8 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 15

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 16 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 21 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 32 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 36 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 37

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 39

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 45

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 46

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 47 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 54 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 56 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 56(1)

4 Ionawr 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 56(4) i (6)

4 Ionawr 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 60

4 Ionawr 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 61

4 Ionawr 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 62

4 Ionawr 2021

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 65 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 67

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 74

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 75 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 76 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 77 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 82

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 83 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 85 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 91 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 92 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 95 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Adran 96 (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)

Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) (yn rhannol)

2 Tachwedd 2020

O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)