Sylw i ddarpariaeth addysgol arbennig wrth lunio cynllun datblygu unigol9.

Wrth lunio cynllun datblygu unigol am y tro cyntaf ar gyfer plentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a nodwyd ar 1 Medi 2021, rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol (yn ôl y digwydd) roi sylw i’r ddarpariaeth addysgol arbennig a ddarparwyd i’r plentyn yn union cyn y gwnaed y penderfyniad o dan Ran 2 o’r Ddeddf fod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol.