Search Legislation

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 381 (Cy. 120) (C. 13)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021

Gwnaed

22 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “addysg feithrin” yr un ystyr â “nursery education” yn adran 117 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—

(i)

adran 312(2)(2) o Ddeddf 1996—

(aa)

mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,

(bb)

mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,

(ii)

adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;

mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;

mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579(3) o Ddeddf 1996;

ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 6 oed;

ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 8 oed;

ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 9 oed;

ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 10 oed;

ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 12 oed;

ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 13 oed;

ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 14 oed;

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;

mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579(4) o Ddeddf 1996;

ystyr “cod” (“code”) yw cod ar anghenion dysgu ychwanegol a ddyroddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;

mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC Plan” yn adran 37(2)(5) o Ddeddf 2014;

ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;

mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—

(i)

adran 312(4)(6) o Ddeddf 1996—

(aa)

mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,

(bb)

mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,

(ii)

adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(7);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014(8);

mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434(9) o Ddeddf 1996;

mae i “diwrnod ysgol” yr un ystyr â “school day” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;

ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth o ddisgyblion y mae addysg feithrin yn cael ei darparu iddynt;

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 1996;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;

mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr â “plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol” yn adran 15 o’r Ddeddf;

ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012(10);

mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn adran 576 o Ddeddf 1996;

mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” (“institution in the further education sector”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf;

ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru(11);

mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)(12) o Ddeddf 1996;

mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in England” yn adran 579(3A)(13) o Ddeddf 1996;

ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw unrhyw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol, unrhyw ysgol feithrin a gynhelir, neu unrhyw ysgol arbennig gymunedol nad yw wedi ei sefydlu mewn ysbyty o fewn ystyr Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(14);

mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.

(3Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996 ond ac eithrio—

(a)adran 323;

(b)adran 329;

(c)adran 329A.

(4Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “y gyfraith newydd” yn gyfeiriadau at—

(a)y Ddeddf,

(b)rheoliad neu’r cod a wneir o dan y Ddeddf honno, ac

(c)unrhyw ddarpariaeth arall o Ddeddf neu a wneir o dan Ddeddf sy’n cael effaith at ddibenion y canlynol neu mewn perthynas â’r canlynol—

(i)darpariaeth o’r Ddeddf honno neu reoliadau neu god o’r fath, neu

(ii)person y mae’r Ddeddf honno neu reoliadau neu god o’r fath yn gymwys iddo.

(5At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—

(a)os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a

(b)os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.

(6At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw yn ardal yr awdurdod.

Ystyr anghenion addysgol arbennig a nodwyd

2.—(1At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan blentyn (“P”) “anghenion addysgol arbennig a nodwyd” os yw P yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru a bod ganddo anhawster dysgu a nodwyd gan y corff llywodraethu sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.

(2Ond nid yw’n cynnwys plentyn—

(a)y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996;

(b)y mae awdurdod lleol yn cynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef;

(c)sy’n blentyn cofrestredig mewn ysgol a gynhelir ac—

(i)sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach), a

(ii)y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol amdano;

(d)sy’n blentyn sy’n derbyn gofal ond nid yn blentyn sy’n derbyn gofal sydd yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr;

(e)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;

(f)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;

(g)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—

(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;

(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu

(iii)dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;

(h)y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;

(i)y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—

(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;

(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(iii)dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—

(aa)gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn; neu

(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;

(j)y mae rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ond nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn;

(k)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â chynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 mwyach ac—

(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben; neu

(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(l)y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;

(m)nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 140 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(15)

(i)yn mynd rhagddo; neu

(ii)wedi arwain at adroddiad ar anghenion addysgol a hyfforddi y person a’r ddarpariaeth sy’n ofynnol i’w diwallu;

(n)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);

(o)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36, beidio â sicrhau asesiad o anghenion AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;

(p)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—

(i)nad yw’r asesiad wedi cychwyn,

(ii)bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu

(iii)nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;

(q)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—

(aa)gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn; neu

(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;

(r)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 ei bod yn angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ond nad yw’r cynllun hwnnw wedi ei lunio;

(s)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2021

3.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2021 mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—

(a)adrannau 2 i 4;

(b)adrannau 6 i 14;

(c)adrannau 16 i 36;

(d)adran 38;

(e)adrannau 40 i 44;

(f)adrannau 47 i 49;

(g)adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);

(h)adran 50(4) i (5);

(i)adrannau 51 i 53;

(j)adran 55;

(k)adran 59;

(l)adrannau 63 i 66;

(m)adrannau 68 i 69;

(n)adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);

(o)yn yr Atodlen—

(i)paragraff 1;

(ii)paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (x);

(iii)paragraff 4(2) i 4(8);

(iv)paragraff 4(9);

(v)paragraff 4(10);

(vi)paragraff 4(13) i 4(18);

(vii)paragraff 4(19)(b);

(viii)paragraff 4(20) a 4(21);

(ix)paragraff 4(23) i 4(29);

(x)paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);

(xi)paragraff 7;

(xii)paragraff 8;

(xiii)paragraff 11(a);

(xiv)paragraff 12(a);

(xv)paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvi);

(xvi)paragraff 14(2) a (3);

(xvii)paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xviii);

(xviii)paragraff 19(5)(e)(ii);

(xix)paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xx);

(xx)paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);

(xxi)paragraff 22;

(xxii)paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiii);

(xxiii)paragraff 23(4);

(xxiv)paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxv);

(xxv)paragraff 24(2) i (3), (5) a (6)(a).

Darpariaeth arbed

4.  Yn ddarostyngedig i erthyglau 7 i 12 ac erthyglau 14 i 16, er bod Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996(16) wedi ei datgymhwyso gan adran 96 o’r Ddeddf a pharagraff 4(9) o’r Atodlen iddi mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd—

(a)mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw; a

(b)nid yw’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.

Hysbysiad CDU

5.  Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad CDU sy’n cadarnhau—

(a)bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf; a

(b)y bydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer y plentyn (oni bai ei bod yn ofynnol i awdurdod lleol sicrhau cynllun AIG yn dilyn cais o dan adran 12(2)(c) o’r Ddeddf).

Hysbysiad dim anghenion

6.  Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad dim anghenion sy’n cadarnhau bod y corff llywodraethu wedi penderfynu nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf.

Effaith hysbysiad CDU

7.  Effaith yr hysbysiad CDU yw—

(a)y bernir bod y corff llywodraethu wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;

(b)bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw; ac

(c)bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.

Effaith hysbysiad dim anghenion

8.  Effaith yr hysbysiad dim anghenion yw—

(a)y bernir bod y corff llywodraethu wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;

(b)bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw; ac

(c)bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.

Dyletswydd i roi hysbysiad

9.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 ac sydd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10.

(2Yn ddarostyngedig i erthygl 12, rhaid i’r corff llywodraethu sy’n darparu’r ddarpariaeth addysgol arbennig i’r plentyn roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad dim anghenion i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022.

10.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022 ac sydd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 5, blwyddyn 9 neu flwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.

(2Yn ddarostyngedig i erthygl 12, rhaid i’r corff llywodraethu sy’n darparu’r ddarpariaeth addysgol arbennig i’r plentyn roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad dim anghenion i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.

11.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2023 ac nad oedd yn dod o fewn erthygl 9 na 10.

(2Yn ddarostyngedig i erthygl 12, rhaid i’r corff llywodraethu sy’n darparu’r ddarpariaeth addysgol arbennig i’r plentyn roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad dim anghenion i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.

Hawl i ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad dim anghenion

12.  Caiff plentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 neu riant y plentyn hwnnw ofyn i gorff llywodraethu’r ysgol y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi roi hysbysiad CDU neu hysbysiad dim anghenion a rhaid i’r corff llywodraethu roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad dim anghenion o fewn 10 niwrnod ysgol i’r cais.

Amser ar gyfer rhoi cynllun datblygu unigol

13.—(1Pan fo hysbysiad CDU wedi ei roi yn unol ag erthyglau 9, 10, 11 neu 12, rhaid i’r corff llywodraethu roi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 35 o ddiwrnodau ysgol i ddyddiad yr hysbysiad oni bai—

(a)bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn adran 12(2) o’r Ddeddf yn gymwys; neu

(b)bod amgylchiadau eithriadol.

(2Os oes amgylchiadau eithriadol, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(3Nid yw unrhyw amserlenni yn y cod sy’n ymwneud â llunio cynllun datblygu unigol gan gorff llywodraethu yn gymwys pan fo cynllun datblygu unigol wedi ei lunio yn dilyn rhoi hysbysiad CDU.

Hysbysiad heb ei roi

14.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 ac a oedd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022 ac na chafodd hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion cyn 31 Awst 2022.

(2Ar 31 Awst 2022—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn; a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

15.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 ac oedd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 5, blwyddyn 9 neu flwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023 ac na chafodd hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion cyn 31 Awst 2023.

(2Ar 31 Awst 2023—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn; a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

16.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 ac na chafodd hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion cyn 31 Awst 2024.

(2Ar 31 Awst 2024—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn; a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

Sylw i ddarpariaeth addysgol arbennig a ddarparwyd cyn hysbysiad CDU

17.  Wrth lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn o ganlyniad i hysbysiad CDU a roddir o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol (yn ôl y digwydd) roi sylw i’r ddarpariaeth addysgol arbennig a ddarparwyd i’r plentyn yn union cyn i’r hysbysiad CDU gael ei roi.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

22 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Medi 2021 mewn perthynas â’r rheini nad ydynt yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol, sy’n mynychu ysgol a gynhelir (heb gynnwys uned cyfeirio disgyblion) ac sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd. Mae’n eithrio rhai eraill sy’n ymwneud â’r fframwaith statudol presennol, gan gynnwys y rheini sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig.

Mae erthygl 1 yn cynnwys diffiniadau, gan gynnwys y “gyfraith newydd” yn y Ddeddf a’r “hen gyfraith” yn Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996. Hyd nes y caiff plentyn ei drosglwyddo i’r gyfraith newydd, bydd yr hen gyfraith yn parhau i fod yn gymwys i’r plentyn ac ni fydd y gyfraith newydd yn cael effaith.

Mae’r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu roi hysbysiad i blentyn mewn grŵp blwyddyn penodol mewn blwyddyn ysgol benodol (erthyglau 9 i 11). Er enghraifft, bydd plentyn sydd mewn dosbarth meithrin, neu sydd ym mlwyddyn 1, 3, 5, 7, neu 10 yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022. Dyddiad yr hysbysiad a roddir i blentyn penodol fydd y dyddiad y bydd y plentyn hwnnw yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd.

Gall y corff llywodraethu roi hysbysiad CDU neu hysbysiad dim anghenion i’r plentyn. Mae hysbysiad CDU yn golygu y bernir bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad ac y bwriedir llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn (erthygl 5). Mae hysbysiad dim anghenion yn golygu y bernir nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad (erthygl 6).

Pan fo cynllun datblygu unigol wedi ei lunio yn dilyn hysbysiad CDU, rhaid i’r corff llywodraethu roi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhieni’r plentyn o fewn 35 o ddiwrnodau ysgol i ddyddiad yr hysbysiad oni bai bod amgylchiadau penodol yn gymwys (erthygl 13).

Os yw’r corff llywodraethu yn methu â rhoi hysbysiad i blentyn yn ystod y flwyddyn ysgol y dylai’r plentyn fod wedi trosglwyddo i’r gyfraith newydd ynddi, mae’r hen gyfraith yn peidio â chael effaith ac mae’r gyfraith newydd yn cael effaith ar ddiwrnod olaf y flwyddyn ysgol berthnasol (erthyglau 14 i 16).

Gall plentyn ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd neu riant y plentyn ofyn bod hysbysiad yn cael ei roi (erthygl 12).

Wrth lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd, rhaid rhoi sylw i’r ddarpariaeth addysgol arbennig yr oedd y plentyn yn ei chael yn union cyn y rhoddwyd yr hysbysiad CDU (erthygl 17).

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn(17):

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 4 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 52 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 7 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 8 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 152 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 16 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 21 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 32 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 36 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 372 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 392 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 452 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 462 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 47 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 54 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 56 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 56(1)4 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 56(4) i (6)4 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 604 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 614 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 624 Ionawr 2021O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 65 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 672 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 742 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 75 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 76 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 77 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 822 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 83 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 85 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 91 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 92 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 95 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Adran 96 (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) (yn rhannol)2 Tachwedd 2020O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33)
(2)

Diwygiwyd gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 59 a pharagraffau 1 a 6 o Atodlen 2, gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 ac 11 o Atodlen 3, gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7 o Atodlen 2, gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 23 o Atodlen 7 ac Atodlen 8.

(3)

Amnewidiwyd y diffiniad o “awdurdod lleol” gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 3.

(4)

Mewnosodwyd diffiniad o “blwyddyn ysgol” gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 43 o Atodlen 7.

(5)

Diwygiwyd gan Ddeddf Gofal 2014 a Gorchymyn Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2015 (O.S. 2015/914), erthygl 2 a pharagraff 97 o’r Atodlen.

(6)

Diwygiwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 ac 11 o Atodlen 3, gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7 o Atodlen 2, gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 71 o Atodlen 30 ac Atodlen 31.

(9)

Diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 111 o Atodlen 30 a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 3.

(11)

Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw’n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gweler adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

(12)

Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a ddiwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.

(13)

Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a ddiwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.

(16)

Gweler erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn a gychwynnodd y darpariaethau hynny.

(17)

Gweler Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/373 (Cy.116) (C.12)) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau at ddibenion penodol ar yr un dyddiad â’r Gorchymyn hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources