Sylw i ddarpariaeth addysgol arbennig a ddarparwyd cyn hysbysiad CDU17.
Wrth lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn o ganlyniad i hysbysiad CDU a roddir o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol (yn ôl y digwydd) roi sylw i’r ddarpariaeth addysgol arbennig a ddarparwyd i’r plentyn yn union cyn i’r hysbysiad CDU gael ei roi.