[F116C.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—LL+C
(a)sy’n dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 15 o’r Ddeddf,
(b)nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, ac
(c)y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2) Ar y dyddiad y daw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 15 o’r Ddeddf—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.]
Diwygiadau Testunol